Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant a Chynllun Gweithredu 2017

Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn gwahodd rhieni, darparwyr gofal plant, cyflogwyr a'r rhai sydd â diddordeb mewn gofal plant yn lleol i roi sylwadau ar y drafft Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant a Chynllun Gweithredu 2017.

Mae'r Asesiad yn adroddiad sy'n dod ynghyd ag ystod o wybodaeth i ddatblygu darlun o'r farchnad gofal plant bresennol ym Mlaenau Gwent a dynodi os oes unrhyw fylchau mewn cyflenwad. Gofynnwyd i amrywiaeth o randdeiliaid  gyfrannu barn a gwybodaeth a chynhwyswyd hyn yn y drafft adroddiad. Mae'r Cynllun Gweithredu’n nodi'r gwaith i'w gynnal i lenwi bylchau a ddynodwyd.

Mae cyfle i breswylwyr a rhanddeiliaid i ymateb i'r drafft Asesiad a Chynllun Gweithrdu, i dynnu sylw at faterion neu bryderon perthnasol a rhannu eu sylwadau ymhellach am ddarpariaeth gofal plant yn awr ac i'r dyfodol.

Cynhelir yr ymgynghoriad am 28 diwrnod o 7 Ebrill 2017 i 5 Mai 2017.

I ddweud eich barn a gweld yr adroddiad cliciwch ar y ddolen Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar a Chwarae, adran Gofal Plant neu ffonio Claire Smith Rheolwr Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar a Chwarae ar 01495 354746.