Asesiad Digonolrwydd Chwarae

Fel y gwyddoch, mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd statudol i asesu cyfleoedd chwarae ar draws Blaenau Gwent. Er mwyn ein galluogi ni i gasglu darlun cywir i hysbysu ein Hasesiad Digonolrwydd Chwarae, hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yn ein harolwg.

Mae'r cysylltiadau i'r arolygon rhieni / gofalwyr a phlant i'w gweld isod, fel arall os yw'n well gennych fersiwn wedi'i argraffu, cysylltwch â mi yn uniongyrchol a gallaf drefnu anfon copi atoch: sharon.cargill@blaenau-gwent.gov.uk 

Ddweud eich dweud ar chwarae ym Mlaenau Gwent

Arolwg rhieni/gofalwyr: https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=152525237041

Arolwg plant: https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=152525235130

Cwblheir Asesiad Digonolrwydd Chwarae bob tair blynedd a chytunir ar Gynllun Gweithredu sy’n cytuno ar y prif flaenoriaethau i hyrwyddo hawl pob plentyn i chwarae. 

Mae’r Tîm Chwarae yn gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno amrediad eang o gyfleoedd chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn gallu rhoi gwybodaeth gyfredol ar gyfleoedd chwarae a hamdden yng ngwahanol ardaloedd y Fwrdeistref Sirol.