Arolwg State of Caring 2019

Fe wnaeth dros 7000 o ofalwyr ei lenwi y llynedd.

ATEB YR AROLWG

Bydd yr arolwg yn cau ar 24 Mai 2019.

Mae'r amser a roddwch i ymateb i'r arolwg yn rhoi gwybodaeth bwysig tu hwnt i ni sy'n ein galluogi i:

  • Ymgyrhu am fwy o gymorth i ymwelwyr a'r rhai y gofalwch amdanynt
  • Deall sut y caiff gwasanaethau a chefnogaeth eu darparu a dylanwadu ar y bobl sy'n comisiynu a chynllunio cymorth i ofalwyr
  • Casglu tystiolaeth am effaith newidiadau polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau datganoledig

Rydym angen eich help i gael darlun o sut beth yw hi i fod yn ofalwr yn 2019.

Rydym angen eich tystiolaeth i wthio gofalwyr lan yr agenda ar gyfer gwneuthurwyr polisi ac ymgyrchu dros gydnabyddiaeth a newid. Yn y flwyddyn nesaf rydym eisiau dod â'ch llais i galon penderfyniadau am:
Gwariant ar wasanaethau gofal a chymorth: Bydd y ffordd y caiff gofalwyr eu cydnabod a'u cefnogi yn rhan allweddol o gynigion polisi gofal cymdeithasol y Llywodraeth a ddisgwylir yn fuan. Bydd y penderfyniadau a wneir yn effeithio ar ofalwyr yn Lloegr a hefyd wariant ar ofal cymdeithasol ar draws y Deyrnas Unedig.

Cefnogaeth ariannol i ofalwyr: Mae ymgyrchu i wella cefnogaeth ariannol ar gyfer gofalwyr yn parhau'n brif flaenoriaeth i ni a hoffem glywed sut mae gofalu wedi effeithio ar eich sefyllfa ariannol yn y tymor byr a hefyd sut y gallwch gynilo ar gyfer y dyfodol.

Gwella iechyd a llesiant gofalwyr: Sut mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn rhoi ymrwymiadau ar waith i weithredu ar ddynodi a chefnogi gofalwyr yn gynharach a sicrhau fod ganddynt gynlluniau yn eu lle pan maent angen cefnogaeth iechyd a gofal. Rydym hefyd eisiau deall sut y gallem gefnogi pobl sy'n gofalu i edrych ar ôl eu hiechyd meddwl a chorfforol drwy fod yn fwy egnïol. Gwyddom fod gofalwyr yn wynebu heriau wrth gymryd rhan mewn ymarfer neu chwaraeon a rydym yn awyddus i weld sut y gallwn helpu i fynd i'r afael â hynny.

Gofalu Am Rywun: Gwybodaeth a chefnogaeth I ofalwyr

Mae rhifyn Gofalwyr Cymru ‘Gofalu am rywun – gwybodaeth a chefnogaeth i ofalwyr’  yw ein canllaw ar gyfer unrhyw un sy'n gofalu am deulu neu ffrindiau.   Mae'r canllaw hwn yn amlinellu eich hawliau fel gofalwr ac yn rhoi trosolwg o'r cymorth ymarferol ac ariannol sydd ar gael.

Mae'r daflen ffeithiau hon yn cynnwys gwybodaeth ar:

  • Budd-daliadau : trosolwg o ba budd-daliadau efallai y byddwch chi neu  y berson rydych yn gofalu am yn gallu hawlio a gwybodaeth am sut i gael archwiliad budd-daliadau
  • Help ariannol arall: gan gynnwys help gyda’r cymorth  treth cyngor, costau tanwydd, pensiynau a chostau iechyd
  • Cymorth ymarferol: yn cgynnwys asesiadau gofal cymunedol, asesiad anghenion gofalwyr a taliadau uniongyrchol
  • Technoleg: gwybodaeth ar technoloeg gofal iechyd a allai wneud bywyd yn haws i chi a'r person yr ydych yn gofalu amdano
  • Eich gweithle: eich hawliau yng nghwaith fel hawliau gweithio hyblyg
  • Cymorth arall: sut i ddod o hyd i help arall yn eith cymuned neu yn genedlaethol
  • Canllaw Gofalwr: cyflwyniad darluniadol i heriau gofal, fel gwneud penderfyniadau anodd i ofalu am eich iechyd a lles