Arolwg 2018 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru

Cyhoeddodd Y Comisiwn yr holl ymatebion a gafodd yn ystod ei ymgynghoriad cychwynnol ar y newidiadau a gynigir i etholaethau Seneddol yng Nghymru – yr ymatebion ysgrifenedig a’r ymatebion llafar a wnaed mewn gwrandawiadau cyhoeddus – ar 28 Chwefror 2017.

Mae’r lansiad yn ddechrau cyfnod statudol o bedair wythnos lle gall unigolion a sefydliadau ddarllen yr ymatebion a wnaed gan eraill a rhoi sylwadau arnynt.  Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 28 Chwefror a 27 Mawrth 2017.  Ni chaiff unrhyw ymatebion a ddaw i law ar ôl 28 Mawrth felly eu hystyried.

Cyhoeddwyd yr ymatebion ysgrifenedig a’r ymatebion llafar a wnaed mewn gwrandawiadau cyhoeddus ar wefan y Comisiwn, mae copiau or holl cynrychiolaethau ar trawgrifiadau or gwrandawiadau cyhoeddus wedi cael eu ddanfon at y mannau cadw yn eich ardal:

Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy NP23 6DN

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o’r uchod, mae pob croeso i chi gysylltu â’r Comisiwn.