Arloesi, Seilwaith a Her,

Mae Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi cyhoeddi bod yna Fframwaith Buddsoddi ac Ymyrryd wedi’i greu. Mae’n canolbwyntio ar dair blaenoriaeth y rhanbarth, sy’n cynnwys arloesi, seilwaith a her, gan alluogi’r trosoli mwyaf posibl o’r £495 miliwn sydd gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gael ar gyfer buddsoddi.

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gatalydd ar gyfer adfywio economaidd hirdymor, sydd â’r nod o gael y rhanbarth cyfan i fod yn hunangynhaliol. Mae’n cynnwys y deg awdurdod lleol, sef Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, a Thorfaen.

O’r £1.2 biliwn sydd ar gael, mae £734 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer Metro De Cymru, ac mae’r £495 miliwn sy’n weddill ar gael ar gyfer cyllido prosiectau a chanddynt botensial mawr yn y rhanbarth drwy’i Fframwaith Buddsoddi ac Ymyrryd. Mae’r dull tair blaenoriaeth unswydd bwrpasol wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â’r gymuned o fuddsoddwyr i drosoli'r buddion economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl o’r £495 miliwn.

Bydd y Flaenoriaeth Fuddsoddi, gwerth £220 miliwn, yn edrych ar gynigion sy’n amlygu eiddo deallusol unigryw, arweinyddiaeth farchnata a chryfder cystadleuol. Bydd yn cefnogi cynigiadau mewn sectorau twf a dargedir sydd â’r potensial mwyaf am adenillion economaidd uniongyrchol ar fuddsoddiad drwy greu swyddi a chynnydd mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA).

Bydd y Flaenoriaeth Seilwaith, gwerth £200 miliwn, yn canolbwyntio ar gyd-fuddsoddiad wedi’i dargedu a chydgyfrannu adnoddau i gyflawni’r effaith fwyaf bosibl drwy gyflenwi prosiectau seilwaith ffisegol a digidol newydd, yn cynnwys ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, band eang, sgiliau, safleoedd neu feinciau arbrofi.

Bydd y Flaenoriaeth Her, gwerth £75 miliwn, yn ceisio ysgogi’r gorchwyl o fabwysiadu cynnyrch a datrysiadau newydd yn Ne-ddwyrain Cymru. Bydd yn ystyried sut i dyfu marchnadoedd newydd ac mae’n croesawu cynigion sy’n codi o fannau cystadleuol lle y gallai mwy nag un sefydliad neu unigolyn gael eu cyfarparu i gyflenwi er mwyn cynnig mwy o hyblygrwydd a rhychwant ar gyfer arbrofi.

Nod y model cyllido teirffordd yw datblygu piblinell gyflenwi gyda phartneriaid, o fewn a’r tu hwnt i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ganolbwyntio ar y blaenoriaethau a amlinellir yn y Cynllun Diwydiannol ac Economaidd, a lansiwyd ym mis Chwefror yn gynharach eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Wrth greu amgylchiadau ar gyfer twf cynaliadwy, mae’n rhaid sicrhau cydbwysedd gofalus rhwng cryfhau arloesi, seilwaith a chystadleuaeth.

“Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfle anhygoel i’n rhanbarth ddatgloi’i botensial perfformio drwy weithredu prosiectau uchelgeisiol, trawsnewidiol, ac rwyf yn hyderus y bydd y Blaenoriaethau Arloesi, Seilwaith a Her yn helpu i gynnal y cydbwysedd hwn ac i ddod â buddion sy’n para.”

Dywedodd Frank Holmes, Cadeirydd Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Ein nod trosfwaol yw gwella amgylchedd busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy fuddsoddiadau strategol, wedi’u targedu.

“Bydd y tair blaenoriaeth hyn yn ein galluogi i dargedu a dethol prosiectau sy’n gysylltiedig ag amcanion twf y Cynllun Diwydiannol ac Economaidd, a ddaw ag adenillion sylweddol ar fuddsoddiadau ac sy’n helpu i gadw’r Fargen Ddinesig yn fythol wyrdd; i gefnogi prosiectau seilwaith dan arweiniad y sector cyhoeddus sy’n angenrheidiol i ddenu ac i alluogi buddsoddiad yn y rhanbarth; ac i annog cynhyrchu datrysiadau arloesol.

“Rydym yn optimistaidd y gall Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ddod yn un o’r rhanbarthau mwyaf buddsoddadwy o fewn y Deyrnas Unedig, ac fe edrychwn ymlaen at dderbyn a thanio’r cynigion fydd yn cyfrannu at wneud iddo ddigwydd.

”Mae’r Fargen Ddinesig eisoes wedi cytuno ar ddau fuddsoddiad allweddol. Ym mis Mai, 2017, fe gytunodd y Cabinet Rhanbarthol eisoes i fuddsoddi £38.5 miliwn i gynorthwyo i ddatblygu clwstwr diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y rhanbarth, ac ym mis Ionawr, 2018, fe gytunodd mewn egwyddor i ymrwymo £40 miliwn i gadarnhau Datblygiad y Metro Canolog gwerth £180 miliwn arfaethedig, prosiect fydd yn darparu Cyfnewidfa Trafnidiaeth Ganolog newydd wrth graidd Parth Cyflogaeth Graidd canol dinas Caerdydd.

I gael mwy o wybodaeth am y tair blaenoriaeth ac i ganfod gwybodaeth am sut i gymryd rhan, cyrchwch y Fframwaith Buddsoddi ac Ymyrryd yma. https://www.cardiffcapitalregion.wales/cy/buddsoddiad/