Ardal Gwella Busnes Stadau Diwydiannol Rasa a Thafarnaubach

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn falch i gyhoeddi canlyniad llwyddiannus Ardal Gwella Busnes Stadau Diwydiannol Rasa a Thafarnaubach: y stadau diwydiannol cyntaf yng Nghymru i ddod yn Ardal Gwella Busnes.

Bydd yn dechrau ym mis Ebrill 2020 am gyfnod o 5 mlynedd a bydd yn canolbwyntio ar adfywio'r ardal fydd yn helpu i greu ffyniant a thwf busnesau.

Mae Ardal Gwella Busnes yn gorff a arweinir ac a gyllidir gan fusnesau a ffurfir i wella ardal fasnachol benodol, yn yr achos hwn Stadau Diwydiannol Rasa a Thafarnaubach. Cafodd dros 320 o Ardaloedd Gwella Busnes eu ffurfio yn y Deyrnas Unedig ers 2005 i gyflawni prosiectau penodol o fudd i'r busnesau a gynrychiolant.

Caiff Ardal Gwella Busnes ei hariannu gan ardoll ar werth trethiannol yr eiddo busnes, a defnyddir y cyllid i gyflwyno'r prosiectau yn y cynllun busnes.

Bydd Ardal Gwella Busnes Stadau Diwydiannol Rasa a Thafarnaubach yn cynrychioli busnesau ar y ddwy stad, gan gyflenwi prosiectau sy'n gwella'r amgylchedd i gynnal busnes. Drwy ei gweithgareddau gweithredol a swyddogaeth cynrychioli, bydd ganddi ran wrth greu amgylchedd diogel, glân a chefnogol i fusnesau ffynnu ynddo.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
“Mae hyn yn newyddion gwych i'r fwrdeistref a busnesau yn yr ardal ac yn arbennig gan mai hon yw'r Ardal Gwella Busnes gyntaf mewn stadau diwydiannol yng Nghymru. Gallwn gyflawni llawer mwy o gydweithio gyda phartneriaid a busnesau fel ei gilydd.

Fel rhan o'r Ardal Gwella Busnes, penodir Bwrdd Cyfarwyddwyr fydd yn troi cyllid yn amrywiaeth o brosiectau gwella busnes ar gyfer Stadau Diwydiannol Rasa a Thafarnaubach. Bydd hyn yn gwella rhagolygon economaidd, adfywio a busnes yr ardaloedd penodol."
Cefnogwyd datblygiad yr Ardal Gwella Busnes drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Mae'n newyddion gwych fod busnesau ar Stadau Diwydiannol Rasa a Thafarnaubach wedi pleidleisio i sefydlu Ardal Gwella Busnes. Dyma'r Ardal Gwella Busnes ddiwydiannol gyntaf yng Nghymru a bydd yn darparu £387,000 o gyllid am dymor pum mlynedd yr Ardal i wario ar ddiogelwch, cynnal a chadw a chynrychiolaeth busnes.

"Profwyd fod Ardaloedd Gwella Busnes yn hybu newid, yn cefnogi'r economi lleol ac yn dod â busnesau ynghyd i gael llais ar y cyd mewn materion sy'n bwysig iddynt. Rwy'n falch fod Parth Menter Glynebwy wedi cyflwyno'r cynnig hwn a'i fod wedi ei sefydlu diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru."


Mae mwy o wybodaeth am Ardaloedd Gwella Busnes ar gael yn:

https://gov.wales/business-improvement-districts/business-improvement-districts-in-wales

https://www.gov.uk/guidance/business-improvement-districts

http://rassautafarnaubach.com/