Ardal Dim Galw Diwahoddiad Cyntaf Glynebwy

Nod yr ardal yw gostwng nifer digwyddiadau troseddu carreg drws ac atal masnachwyr twyllodrus fel gweithwyr twyllodrus, swyddogion ffug, lladron tynnu sylw a chasglwr elusen sgam rhag galw mewn cartrefi yn yr ardal.

Caiff hysbysiadau dim galw diwahoddiad eu rhoi ar bostion lamp a rhoddir sticer ffenestr a llyfryn cyngor i bob cartref yn dweud wrth breswylwyr sut i drafod galwyr diwahoddiad. Nod yr ardal yw annog troseddwyr carreg drws a galluogi’r heddlu a Safonau Masnach i’w trin lle bynnag sy’n bosibl. Aiff llawer o ddigwyddiadau troseddwyr carreg drws heb hysbysu’r awdurdodau a gobeithir y bydd rhoi rhifau cyswllt yr heddlu a Chyngor Defnyddwyr ar yr hysbysiadau ar y postion lamp yn annog preswylwyr i roi adroddiad am unrhyw ddigwyddiadau.

Ymgynghorwyd a phreswylwyr Cilgant Bevan am yr ardal ac roedd y mwyafrif llethol o blaid ei sefydlu, gyda llawer o breswylwyr yn dweud iddynt dderbyn nifer fawr o ymweliadau gan alwyr diwahoddiad yn y gorffennol ac yn pryderu am droseddwyr carreg drws.

Dywedodd y Cynghorydd Haydn Trollope, Aelod Gweithrediaeth yr Amgylchedd:

“Mae’n hysbys iawn fod masnachwyr twyllodrus yn targedu’r henoed a’r bregus. Yn aml mae cysylltiad rhwng masnachwyr twyllodrus a lladron tynnu sylw gan roi gwybodaeth i’w gilydd am dargedau posibl. Mewn ymdrech i gynyddu effeithlonrwydd atal troseddau carreg drws, mae adran Safonau Masnach Cyngor Blaenau Gwent a Heddlu Gwent yn cyflwyno’r ardal yng Nghilgant Bevan fydd yn rhoi diogeliad ychwanegol i breswylwyr yr ardal”.