Anrhydeddu pencampwr snwcer y byd

Cafodd yr anrhydedd ei chyflwyno i Mr Williams gan y Cyng Mandy Moore, Cadeirydd Cyngor Blaenau Gwent, i ystyried ei lwyddiant eithriadol yn y byd chwaraeon. Ef yw'r person cyntaf o fyd chwaraeon o'r ardal i dderbyn yr anrhydedd hwn.

Yn hanu o bentref Cwm, ac yn dal i fyw yn yr ardal leol, gall Mr Williams MBE restru llawer o lwyddiannau yn ei yrfa chwaraeon hynod yn cynnwys ennill teitl y byd snwcer deirgwaith, yn 2000, 2003 a 2018. Mae hefyd yn un o ddim ond tri chwaraewr i ennill y 'Goron Driphlyg' yn yr un tymor. Dyma'r enw a roddir i'r prif dri twrnamaint chwaraeon - Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig, Pencampwriaeth y Meistri a Phencampwriaeth y Byd.

Ymunodd ei deulu gyda Mr Williams ar gyfer y seremoni yn y Ganolfan Ddinesig, gyda chynghorwyr hefyd yn bresennol oedd yn unfrydol o blaid cyflwyno'r anrhydedd.

Dywedodd Mr Williams: "Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at heddiw - mae'n fraint go iawn cael Rhyddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Gwn na chafodd llawer o bobl yr anrhydedd yma ac mae'n wych cael fy nghydnabod am fy lwyddiant yn y gamp rwy'n ei charu."

Meddai'r Cyng Moore: "Rydym yn falch tu hwnt y cyflwynwyd Rhyddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i Mark Williams. Yn dderbynnydd haeddiannol iawn, mae Mr Williams yn ysbrydoliaeth ac yn fodel rôl i bobl ifanc y fwrdeistref hon ac yn profi y gallwch yn wir gyflawni eich breuddwydion os ydych yn gweithio'n ddigon caled ac yn credu.
"Byddwn yn cadw golwg agos a dymunwn bob dymuniad da i Mr Williams pan fydd yn amddiffyn ei deitl Byd ym mis Ebrill eleni."