Annog pleidleiswyr i baratoi ar gyfer yr etholiad cyffredinol sydd ar ddod

Mae preswylwyr Blaenau Gwent & Rhymni yn cael eu hannog i baratoi cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU a gynhelir ddydd Iau 4 Gorffennaf.

Mae'n rhaid i unrhyw un sydd am ddweud ei ddweud yn yr etholiad cyffredinol fod wedi'i gofrestru i bleidleisio erbyn dydd Mawrth 18 Mehefin. Dim ond pum munud y bydd yn ei gymryd i gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Am y tro cyntaf, bydd angen i bleidleiswyr yn ardal Blaenau Gwent & Rhymni ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn etholiad cyffredinol Senedd y DU. Mae preswylwyr yn cael eu cynghori i wneud yn siŵr eu bod yn barod i bleidleisio drwy gadarnhau bod ganddynt fath o ID a dderbynnir.

Ymysg y mathau o ID a dderbynnir mae pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Gymanwlad; trwydded yrru y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Gymanwlad; a rhai cardiau teithio rhatach, megis pàs bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID sydd wedi dirwyn i ben os gellir eu hadnabod o'r ffotograff o hyd.

Gall unrhyw un nad oes ganddo un o'r mathau o ID a dderbynnir wneud cais i gael ID am ddim ar-lein yn www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr neu drwy gwblhau ffurflen bapur. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais cyn yr etholiad cyffredinol yw 5pm, ddydd Mercher 26 Mehefin. Dylai pleidleiswyr sy'n dymuno gwneud cais wneud yn siŵr eu bod wedi'u cofrestru i bleidleisio yn gyntaf.

Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil y Comisiwn Etholiadol:

“Mae'n bwysig bod y rhai sydd am bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol wedi'u cofrestru i bleidleisio erbyn y dyddiad cau, a bod ganddynt fath o ID ffotograffig a dderbynnir. Rydym yn annog pleidleiswyr i sicrhau eu bod yn deall pa fathau o ID y gallant eu defnyddio, a sut i wneud cais am ID am ddim os oes angen un arnynt. Mae cadarnhau hyn cyn gynted â phosibl yn golygu y byddwch yn barod pan ddaw hi'n amser pleidleisio.”

“Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gofyniad i ddangos ID a beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol.”

Dywedodd Andrea Jones, Swyddog Canlyniadau Dros Dro ar gyfer yr etholaeth Blaenau Gwent a Rhymni:

"Gall preswylwyr heb un o'r ffurfiau adnabod derbyniol wneud cais am ID am ddim naill ai ar-lein neu drwy lenwi ffurflen gais bapur. Fodd bynnag, nodwch fod yn rhaid i geisiadau ddod i law erbyn 5pm ar 26 o Fehefin 2024. Os oes angen unrhyw help arnoch i wneud cais am yr ID rhad ac am ddim neu os hoffech wneud cais am ffurflen gais, cysylltwch â thîm gwasanaethau etholiadol Blaenau Gwent ar 01495 355086/88 neu e-bostiwch etholiadol .gwasanaethau@blaenau-gwent.gov.uk neu dîm gwasanaethau etholiadol Caerffili ar 01443 866586 neu e-bostiwch gwasanaethauetholiadol@caerffili.gov.uk.”

Mae'r rhestr lawn o fathau o ID a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol, ynghyd â mwy o wybodaeth am y gofyniad a manylion am sut i wneud cais am yr ID am ddim, yn comisiwnetholiadol.org.uk/id-pleidleisiwr.

Gall pleidleiswyr ddewis pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy hefyd. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ddydd Mercher 19 Mehefin. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin. I gael gwybodaeth am etholiadau yn eu hardal, sut i gofrestru i bleidleisio, neu sut i wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, gall pleidleiswyr fynd i www.comisiwnetholiadol.org.uk/pleidleisiwr.

Nodiadau:

  • Mae'r gofyniad i ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio yn ofyniad a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y DU.
  • O dan y ddeddfwriaeth, rhaid i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio ddangos ID ffotograffig a dderbynnir cyn iddynt gael eu papur pleidleisio. Mae'r gofyniad yn gymwys i etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys is-etholiadau'r Senedd, etholiadau cynghorau lleol yn Lloegr, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr. Nid yw'n gymwys i etholiadau lleol yng Nghymru nac yn yr Alban, nac i etholiadau Senedd Cymru na Senedd yr Alban. Mae'r gofyniad eisoes yn bodoli yng Ngogledd Iwerddon.
  • Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y polisi ID pleidleiswyr ac am y system gwneud cais am ID pleidleisiwr am ddim. Dylid cyfeirio ymholiadau sy'n ymwneud â'r system gwneud cais neu'r polisi ei hun at yr Adran.
  • Y Comisiwn Etholiadol sy'n gyfrifol am sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o'r gofyniad i gael ID, ac am gefnogi awdurdodau lleol gyda'r broses. Dylid cyfeirio cwestiynau sy'n ymwneud ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd at y Comisiwn Etholiadol.
  • Yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am weithredu'r gofyniad i gael ID ar lefel leol.
  • Er mwyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, bydd angen i bleidleiswyr ddarparu llun, enw llawn, dyddiad geni, y cyfeiriad lle maent wedi'u cofrestru i bleidleisio a'u rhif Yswiriant Gwladol.