Ailgylchu eich Coeden Nadolig

Cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 os gwelwch yn dda i gofrestru eich manylion a threfnu diwrnod ar gyfer casglu coed Nadolig.

Dosbarthu Calendrau Sbwriel

Caiff Calendrau Sbwriel 2017 eu dosbarthu yn ystod mis Ionawr, yn eich atgoffa am eich dyddiadau casglu yn y flwyddyn i ddod.

Gostwng Gwastraff ac Ailgylchu Mwy

Fel pob awdurdod arall ledled Cymru, mae'n rhaid i Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent wella ei gyfraddau ailgylchu i gyflawni targedau heriol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Hoffem ddiolch i chi am ailgylchu a'ch annog i barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth. Mae llawer o fanteision i ailgylchu, sy'n cynnwys y gwasanaeth wythnosol i gael gwared â'ch gwastraff bwyd ac ailgylchu ac wrth gwrs mae ailgylchu mwy yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 os gwelwch yn dda os ydych angen archebu mwy o offer ailgylchu.

Yn ogystal â'r gwasanaeth ailgylchu wythnosol, mae gennym wasanaeth wythnosol ar gyfer casglu cewynnau ac eitemau glanweithdra oedolion ac mae gennym wasanaeth casglu gwastraff swmpus (y codir tâl amdano). Mae gennym hefyd gymorth casglu i breswylwyr na all roi cynwysyddion/palmant ar ochr y palmant: cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 i gael mwy o wybodaeth ar y gwasanaethau hyn neu gofrestru ar adran Fy Ngwasanaethau Cyngor ar wefan y cyngor yn www.blaenau-gwent.gov.uk.