Ail-agor Canolfannau Chwaraeon mewn camau

Mae Cyngor Blaenau Gwent ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn gweithio mewn partneriaeth i ail-agor canolfannau chwaraeon a chyfleusterau hamdden yn ddiogel yn y fwrdeistref sirol.

O ddydd Llun 15 Awst bydd y canolfannau chwaraeon yn Abertyleri a Glynebwy ar agor i aelodau sy’n talu’n fisol yn unig. Bydd angen archebu sesiynau campfa a dosbarthiadau ymarfer ymlaen llaw drwy Ap Hamdden Aneurin – ar gael nawr o’r App Store neu Google Play. Gellir hefyd archebu ymweliadau ar-lein yn https://www.bglife.co.uk/ neu drwy gysylltu â’r dderbynfa. Ni chymerir unrhyw daliadau aelodaeth tan 1 Medi, gan olygu y gall aelodau ddefnyddio’r cyfleusterau yn ystod mis Awst heb gost ychwanegol.

Fel canlyniad i waith cynnal a chadw sy’n mynd rhagddo, bydd Canolfan Chwaraeon Tredegar yn ail-agor ychydig yn ddiweddarach erbyn dechrau is Medi, neu ynghynt os caiff y gwaith ei orffen. Cafodd oriau agor eu hymestyn yn Abertyleri a Glynebwy i alluogi aelodau i gael mynediad i’r cyfleusterau hynny os dymunant.

Bydd sesiynau nofio ar gael i aelodau’n unig yng Nghanolfan Chwaraeon Abertyleri ac, unwaith eto, bydd angen eu harchebu ymlaen llaw.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor:

“Mae iechyd a llesiant cymunedau lleol yn bwysig iawn i ni a gwyddom fod pobl yn awyddus i ailddechrau ar eu gweithgareddau ffitrwydd a chwaraeon, felly rydym yn falch iawn ein bod wedi medru gweithio mor gyflym gyda’r Ymddiriedolaeth i fod mewn sefyllfa i ailagor cyfleusterau hamdden i aelodau yr wythnos nesaf. Cafodd cyfres o fesurau i helpu pobl i ddiogelu rhag Covid a phellter cymdeithasol yn y safleoedd ac mae croeso i unrhyw aelod sy’n dymuno eu gweld drostynt eu hunain ymlaen llaw i drefnu taith o’r cyfleusterau ymlaen llaw cyn iddynt agor.”

Caiff nifer o fesurau diogelwch a glanweithdra atal Covid eu gweithredu a gallwch ddarllen mwy am hyn ar wefan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin – https://aneurinleisure.org.uk/

Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda’i grwpiau chwaraeon sy’n cydymffurfio â Covid i ddefnyddio lleiniau awyr agored a bydd yn asesu’n barhaus sut y gellir ymestyn gwasanaethau i bob cwsmer dros y misoedd nesaf.

Os hoffech weld y mesurau a weithredwyd, bydd taith o’r cyfleusterau ar gael ar 13 a 14 Awst – ffoniwch y dderbynfa i drefnu amser os gwelwch yn dda.
• Abertyleri - 01495 357779
• Canolfan Chwaraeon Glynebwy – 01495 357777

Yr oriau agor o ddydd Sul 15 Awst fydd:

Canolfan Chwaraeon Glynebwy:
Cyfleusterau campfa
Dydd Llun – Dydd Gwener: 6am i 8pm
Dydd Sadwrn a Dydd Sul: 8am i 1pm
Cyfleusterau awyr agored
Dydd Llun – Dydd Gwener: 10am i 6pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 9am i 1pm

Canolfan Chwaraeon Abertyleri
Cyfleusterau campfa
Dydd Llun – Dydd Gwener: 6am to 8pm
Dydd Sadwrn a Dydd Sul: 8am i 1pm
Cyfleusterau awyr agored
Dydd Llun – Dydd Gwener: 10am to 6.30pm
Dydd Sadwrn a Dydd Sul: 9am i 1pm
Cyfleusterau pwll
Dydd Llun – Dydd Gwener: 6.15 i 7.15am; 7.30 i 8.30am; 12 i 1pm; 7.15 i 8.15pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 10 i 11am; 11.15am i 12.15pm