Ai tenant ydych chi?

Ai tenant ydych chi?  

Mae bellach yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob landlord gofrestru, ac i bob asiant a landlord sy’n rheoli ei eiddo ei hun gael trwydded.   

Os ydych chi’n rhentu eich cartref oddi wrth landlord preifat, bydd y gyfraith hon yn effeithio arnoch chi.   

Gall Rhentu Doeth Cymru eich helpu gyda’r canlynol:  

  • Gwirio eiddo – i sicrhau bod eich landlord a/neu eich asiant wedi cofrestru ac â’r drwydded ofynnol
  • Rhoi gwybodaeth yn ddienw – i roi gwybod am eiddo sydd heb ei gofrestru ac am landlordiaid ac asiantau sydd heb drwydded
  • Canllawiau i denantiaid – i gael hyd i wybodaeth a chyngor defnyddiol

I gael gwybod rhagor, ewch i rhentudoeth.llyw.cymru neu ffoniwch 03000 133344