Agor safle Profion Coronafeirws rhanbarthol yn Cwm

Cafodd safle profion drwy ffenest y car ar gyfer Coronafeirws ei agor yn hen Lofa’r Marine yn Cwm, ger Glynebwy, fel rhan o ymgyrch y Llywodraeth i gynyddu profion.

Mae profion ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un gyda symptomau coronafeirws, pa bynnag mor ysgafn. Dylid archebu profion cyn gynted â bod symptomau’n dechrau. Mae’r prawf swab yn cymryd llai na munud.

Gall aelodau o’r cyhoedd a gweithwyr allweddol gyda symptomau wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru i gael prawf.

Mae’r profion ar gael ar gyfer pawb, yn cynnwys grwpiau bregus a phobl gydag anableddau.

Bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu ar gael i unrhyw un sy’n cael prawf positif am y feirws yng Nghymru i’w helpu i olrhain eu cysylltiadau. Bydd hyn yn helpu pobl i ddynodi pwy y buont mewn cysylltiad agos â nhw, gan ddiogelu pobl eraill rhag trosglwyddo pellach.

Dywedodd y Cyng Nigel Daniels, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

“Rydym yn falch i weithio gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sefydlu canolfan profion drwy ffenest y car yn Cwm, Blaenau Gwent, fel rhan o’r gwaith i sicrhau bod Profi, Olrhain, Diogelu effeithlon ar gael ar draws y rhanbarth. Rydym yn falch na fydd yn rhaid i bobl leol deithio i Gasnewydd neu Gaerdydd mwyach os ydynt angen prawf am Covid-19. Mae’n rhaid gwneud apwyntiad ymlaen llaw i fynd i’r safle.

Gwn fod hon yn ardal boblogaidd ar gyfer teithio llesol lle mae pobl leol yn cerdded a seiclo a hoffwn sicrhau preswylwyr y caiff eu llwybrau hyn eu cynnal yn llawn drwy gydol y cyfnod hwn.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru:

“Rwy’n falch i weld y ganolfan profi newydd yma’n agor yn Cwm, ger Glynebwy, gan roi mynediad mwy cyfleus i brofion ar gyfer pobl yn yr ardal yma a chynyddu ein capasiti profi yng Nghymru.

“Gall unrhyw un sy’n profi symptomau COVID-19 yng Nghymru yn awr archebu prawf mewn canolfan leol  profi drwy ffenest y car neu archebu offer profi yn y cartref. Mae cynyddu profion yn rhan bwysig o’n strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu fydd yn ein helpu i lacio mesurau cyfyngiadau symud a helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel neu ailgydio yn eu ffordd o fyw arferol yn gyflymach.”

Caiff y Ganolfan Profi ei gweithredu mewn partneriaeth gyda Mitie a bydd yn cynnig profion gyda chymorth neu brrofion y mae pobl yn eu gweinyddu ein hunain.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi sefydlu gwasanaeth profion cartref, a gefnogir gan rwydwaith logisteg Amazon a phartneriaid masnachol eraill. Gellir dosbarthu offer profion cartref i gartrefi pobl fel y gallant eu profi eu hunain a’u teulu heb orfod adael y tŷ.

Mae gwasanaeth profion am ddim y GIG ar gael i bawb yng Nghymru a Lloegr.

Gall unrhyw un gyda symptomau yng Nghymru wneud cais am brawf drwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru. Os nad yw’r rhyngrwyd ar gael iddynt, gellir archebu prawf drwy ffonio 119.

Mae’r prawf yn golygu cymryd swab o’r trwyn a chefn y gwddf, a gall hyn gael ei wneud gan y person ei hunan (hunanweinyddu) neu gan rywun arall (gyda chymorth). Gall y prawf fod yn anghysurus ond ni ddylai frifo.

Mae profion ac olrhain yn ganolog i strategaeth coronafeirws Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. I atal lledaeniad y feirws, bydd angen i bawb chwarae eu rhan drwy ynysu os ydynt yn dangos symptomau, archebu prawf cyn gynted ag sydd modd, ac os gofynnir iddynt ddweud hynny, ddweud gyda phwy y buont mewn cysylltiad agos â nhw. Dyma’r ffordd orau i alluogi bywyd i ddychwelyd mor agos i normal ag sydd modd, i gynifer o bobl ag sydd modd, mewn ffordd sy’n ddiogel ac yn gwarchod ein GIG a gofal cymdeithasol. Mae mwy o wybodaeth ar GIG Cymru Profi, Olrhain a Diogelu.