Adroddiad cadarnhaol ar Wasanaethau Plant

Treuliodd Arolygiaeth Gofal Cymru ddwy wythnos yn arolygu Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol yn gynharach eleni ac mae eu hadroddiad yn nodi llawer o agweddau cadarnhaol a gwaith da o fewn y gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys bod Blaenau Gwent:

• â gweithlu ymroddedig
• wedi ymateb i her diffyg lleoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal drwy gyflogi swyddog recriwtio a datblygu gofalwyr maeth proffesiynol a lleoliadau plentyn a rhiant
• yn hyrwyddo sefydlogrwydd, diogelwch a llesiant plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n ymadael â gofal
• â grŵp rheoli sefydlog y mae staff yn eu hystyried yn rhwydd mynd atynt ac yn gefnogol
• ag uchelgais ar gyfer plant sy'n derbyn gofal
• yn gwerthfawrogi pobl ifanc ac yn gwneud yn sicr y caiff eu lleisiau eu clywed
• yn sicrhau fod plant a phobl ifanc yn manteisio o leoliadau sefydlog a diogel
• yn sicrhau fod plant a phobl ifanc sy'n gadael gofal yn cael cefnogaeth effeithlon i bontio i fywyd fel oedolion
• yn sicrhau y caiff plant a phobl ifanc eu gwarchod drwy weithredu trothwyon aml-asiantaeth effeithlon ar ddiogelu ac amddiffyn plant


Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd ddynodi meysydd ar gyfer gwella ac y paratowyd cynllun gweithredu, y gwnaeth y Pwyllgor Gweithredol hefyd ei gefnogi heddiw.

Fel rhan o'r arolwg bu Arolygiaeth Gofal Cymru yn cyfweld â phlant, rhieni a pherthnasau, aelodau staff, cynghorwyr, uwch swyddogion, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor. Fe wnaethant hefyd siarad gyda sefydliadau partner ac adolygu ffeiliau.

Dywedodd y Cynghorydd John Mason, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn i'r Gwasanaethau Plant sy'n cynnwys cymaint o bethau cadarnhaol am y ffordd y gweithiwn i warchod a meithrin plant a phobl ifanc sydd yng ngofal y fwrdeistref sirol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau staff rhagorol ein gwasanaethau cymdeithasol sydd ag ymroddiad i ofalu am a chefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed yn ein bwrdeistref sirol.

“Mae hefyd rai meysydd wedi eu clustnodi ar gyfer gwella a gwelwn hyn fel cyfle go iawn i edrych yn agos ar y ffordd y caiff Gwasanaethau Plant eu cyflwyno a byddwn yn gweithio'n galed i wneud y gwelliannau angenrheidiol.”