Yn y Cyngor Llawn a gynhaliwyd heddiw, cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/2024 i Gynghorwyr Blaenau Gwent.
Mae Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/2024 yn amlygu gwaith y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mlaenau Gwent dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda ffocws ar ddarparu gwasanaethau hanfodol er gwaethaf heriau ariannol sylweddol a chymhlethdodau a galwadau cynyddol am wasanaethau. Mae’r adroddiad yn dathlu ymdrechion gweithlu’r Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal darpariaeth gwasanaethau er gwaethaf yr hyn sydd wedi bod ac a fydd yn parhau i fod yn dirwedd ariannol galed.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cwblhau PODIAU Byw'n Annibynnol yn Augusta House, gan ddarparu unedau hunangynhwysol i unigolion ag anableddau dysgu i fyw'n fwy annibynnol. Bydd y ddau BOD hunangynhwysol yn cefnogi unigolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth ar gyfer unigolion 16+ oed gan ganolbwyntio ar yr hyn y gall unigolion ei wneud a cheisio eu grymuso i fyw mor annibynnol â phosibl. Mae'r cymorth a ddarperir yn cynnwys gweithgareddau meithrin sgiliau a chynlluniau personol.
Mae hefyd yn cyfeirio at effaith gadarnhaol y strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal gyda chanlyniadau gwell parhaus ar gyfer ein poblogaeth plant sy'n derbyn gofal gydag enghreifftiau o bum dysgwr yn symud ymlaen i brifysgol, ochr yn ochr â chynlluniau i agor cartref plant cyntaf Awdurdod Lleol Blaenau Gwent yn gynnar yn 2025 yn dilyn cais am grant cyfalaf llwyddiannus i Lywodraeth Cymru. Bydd y cartref preswyl i blant yn galluogi ein pobl ifanc i aros ym Mlaenau Gwent a pheidio â wynebu symud i leoliadau ar draws y DU. Gwnaeth Gweinidogion Cymru ymrwymiad i 'ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal erbyn diwedd tymor y Senedd.' I helpu gyda hyn, sefydlwyd y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru a all gael ei defnyddio i fuddsoddi mewn cartrefi preswyl awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn gallu diwallu anghenion mwy cymhleth unigolion yn nes at eu cartrefi.
Adroddodd y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd fod sefyllfa gyllidebol gadarnhaol ar gyfer blwyddyn ariannol 23/24, a phriodolwyd hyn i effaith y strategaethau Plant sy’n Derbyn Gofal a byw’n annibynnol, a defnydd effeithiol yr adran o gyfleoedd grant â chyfyngiad amser i brofi a darparu cymorth ataliol amgen sy'n cefnogi pobl i aros gartref.
Wrth symud ymlaen, mae'r Gyfarwyddiaeth yn bwriadu archwilio strategaethau cynhyrchu incwm ac atebion cymunedol i leihau toriadau pellach a lleihau dibyniaeth ar wasanaethau statudol.
Sefydlogrwydd a Datblygu’r Gweithlu:
Gwelodd y gweithlu mewn timau gwaith cymdeithasol gofal plant sefydlogi yn ystod 23/24, gyda recriwtio staff gwaith cymdeithasol llwyddiannus yn cael ei gefnogi trwy ddull noddi Awdurdod Lleol ar gyfer y Radd mewn Gwaith Cymdeithasol. Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i weithwyr cymorth o fewn y Cyngor gyflawni eu cymhwyster gwaith cymdeithasol tra'n gweithio yn y fwrdeistref.
Meddai’r Cynghorydd Haydn Trollope, Aelod Cabinet dros Bobl a Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent:
“Mae’r adroddiad yn amlygu ymrwymiad parhaus y Cyngor i gefnogi ei weithlu Gwasanaethau Cymdeithasol a gwella’r modd y darperir gwasanaethau er gwaethaf amgylchiadau heriol. Mae gwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi blaenoriaethau ein Cynllun Corfforaethol i fod yn gyngor uchelgeisiol ac arloesol sy’n darparu gwasanaethau o safon ar yr amser iawn ac yn y lle iawn ac i weithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion lleol, gan wella ansawdd bywyd a llesiant o fewn y gymuned, gan rymuso a chefnogi cymunedau i fod yn ddiogel, yn annibynnol ac yn gydnerth.
“Mae’n hollbwysig ein bod yn cadw lefelau cadw staff ar eu huchaf erioed drwy roi’r hyfforddiant a’r sgiliau angenrheidiol iddynt gyflawni eu rolau cynyddol anodd yn ein sector gofal.”
“Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi lle bynnag y gallwn welliannau pellach ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y gwaith da yn y meysydd hyn.”
Mae’r cyflawniadau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad wedi’u hamlygu isod:
- Enillodd prosiect Gofalwyr Ifanc Teuluoedd yn Gyntaf Wobr Gofal Cymdeithasol.
- Aeth pum plentyn sy'n derbyn gofal ymlaen i brifysgol.
- Mae Blaenau Gwent wedi dod yn Awdurdod Lleol Cyfeillgar i Faethu.
- Mae'r adran wedi buddsoddi mewn cerbydau trydan prydau cymunedol i wella effeithlonrwydd gwasanaeth a'n heffaith ar ein hamgylchedd.
- Rydym wedi gweld cynnydd mewn presenoldeb yn y gwaith ar draws y Gyfadran gyfan gyda llai o absenoldebau staff oherwydd salwch.
- Cawsom arolygiad cadarnhaol gan ein rheolydd AGC o Gartref Gofal Dementia Cwrt Mytton a chynnydd sylweddol mewn gweithgareddau cymdeithasol yn y cartref i wella lles y rhai sy'n byw yno a'u cysylltiadau â'r gymuned ehangach.
- Rydym wedi cynyddu cymorth i deuluoedd a gofalwyr ifanc di-dâl oherwydd buddsoddiad cyllid grant sy'n darparu cynllun grant costau byw, mwy o gynigion seibiant a staff ychwanegol i gefnogi gydag asesiadau gofalwyr
- Cwblhawyd gwaith yn Lakeview i wella ein gwasanaeth arlwyo opsiynau cymunedol sy'n darparu cyfleoedd dysgu i bobl ag anableddau.
- Rydym wedi parhau i ddarparu ein cynllun CARIAD i alluogi pobl gamu i lawr o’r ysbyty mewn modd amserol ac atal derbyniadau i'r ysbyty.
- Prynu 2 eiddo gyda Grant Cyfalaf y Gronfa Integreiddio Ranbarthol (RIF) i ddatblygu darpariaeth breswyl ar gyfer ein plant sy'n derbyn gofal. Disgwylir i'r cartrefi agor ym mis Ionawr 2025.
- Enillodd dwy ysgol Farc Ansawdd Ysgolion sy'n Gyfeillgar i Blant sy'n Derbyn Gofal.
I ddarllen yr adroddiad yn llawn ewch i - https://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/documents/s16299/CO2409D8%20Appendix%2023-24%20ACRF%20FINAL.pdf?LLL=0