Addysg LEGO yn helpu i adeiladu sgiliau ym Mlaenau Gwent

Cafodd y disgyblion y dasg o adeiladu a rhaglennu robot Lego a gosodwyd her iddynt oedd yn profi eu sgiliau datrys problemau ac annog arloesedd. Roedd angen sgiliau cyfathrebu a gweithio tîm ardderchog yn ogystal ag edrych ar wahanol elfennau o beirianneg a thechnoleg. Dangosodd y gweithgaredd y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prentisiaethau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Saesneg a Mathemateg).

Yr ysgolion a gymerodd ran yn y prosiect oedd Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr, Ysgol Gyfun Abertyleri, Ysgol Gyfun Brynmawr ac Ysgol Gyfun Tredegar.

Cynhaliodd pob un o'r pedair ysgol uwchradd sesiynau yn eu hysgolion yr wythnos ddiwethaf. Dewiswyd 30 disgybl o bob blwyddyn ysgol 8 i wneud y gweithgaredd dechreuol. Cafodd tîm ei ddewis wedyn i gynrychioli'r ysgol yn y cyflwyniad terfynol a gynhaliwyd ddoe (dydd Mawrth 4 Ebrill) yng Nghanolfan Addysg Eden.

Cefnogwyd y cynllun gan Raglen Rhannu Prentisiaeth yr awdurdod lleol. Bu prentisiaid Anelu'n Uchel, sydd wrthi ar hyn o bryd yn dilyn eu hyfforddiant gyda chyflogwyr nawdd, yn mentora a chefnogi'r disgyblion yn ystod y gweithgaredd, yn cynnwys:

• Matthew Malloy – Sears Seating – Ysgol Gyfun Tredegar
• Josh Poultney – JC Moulding – Ysgol Gyfun Brynmawr
• Jack Williams – Sogefi Filtration – Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr
• Richard Miles – Base Handling – Ysgol Gyfun Abertyleri

Dywedodd Richard Crook, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd ac Adfywio Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent:
 
“Bu hwn yn gyfle partneriaeth gwych i gyflwyno gweithgaredd seiliedig ar y cwricwlwm gyda nawdd a chefnogaeth busnesau lleol mewn amgylchedd ysgol. Cafodd y disgyblion brofiad yn defnyddio Lego fel dolen i ddysgu mwy am fyd peirianneg, gwyddoniaeth a thechnoleg. Maent wedi manteisio o'r profiad a chefnogaeth y prentisiaid presennol o Anelu'n Uchel, a ddewisodd eu llwybrau gyrfa drwy ddull dysgu seiliedig ar waith. Cynhelir gweithgaredd tebyg mewn ysgolion cynradd yn y dyfodol agos gyda'r nod o adeiladu gwybodaeth a sgiliau o amgylch y sector gweithgynhyrchu, peirianneg a thechnoleg.”   

Dywedodd Mr Edwards, o Ysgol Gyfun Tredegar yr Ysgol Feddygol:

"Cyfle gwych i ddisgyblion ddatys problemau sylfaenol yn defnyddio gwaith tîm gan ddefnyddio sgiliau rhaglennu pwysig sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant. Mae'r disgyblion yn wirioneddol wedi mwynhau eu profiad, tra mod i'n fag o nerfau."

Cefnogwyd y tîm buddugol gan Daryl Davies, Rheolwr Sears Seating a Matthew Malloy, Prentis Anelu'n Uchel a chyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Tredegar:

"Mae'n wirioneddol dda gweld pobl ifanc yn cymryd rhan yn y gweithgaredd yma, gweithgynhyrchu, rhaglennu cyfrifiadur a gwneud cyllideb. Roedd y canlyniadau'n rhagorol, y cyflwyniadau o safon uchel, fe wnaeth y bobl ifanc hyn ddangos hyder go iawn. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn eu hannog i gael gyrfaoedd mewn peirianneg."