6 ffordd mae’r rhyngrwyd wedi gweddnewid Blaenau Gwent

Mae rhwydwaith band eang cyflym iawn yn cael ei gyflwyno ar hyd a lled y wlad fel rhan o brosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru. Ond beth mae hyn yn ei olygu i drigolion Blaenau Gwent?

Mae gan y rhan fwyaf o drigolion Blaenau Gwent fand eang cyflym iawn yn barod, ond sut mae’r rhyngrwyd wedi newid yr ardal leol? Dyma 6 ffordd mae wedi newid Blaenau Gwent:

1.    Sianel deledu unigryw i Flaenau Gwent

Yn 2012, cafodd sianel deledu ar-lein 3VTV ei lansio’n benodol i drigolion Blaenau Gwent, er mwyn darlledu newyddion lleol, hyrwyddo busnesau a oedd angen help llaw a rhoi cyfle unigryw i wneuthurwyr ffilm a dogfennau ddangos eu crefft i bobl yr ardal.

2.    Mynd ati i e-ddysgu

Mae Coleg Gwent wedi’i gwneud hi’n bosib i bobl ennill cymwysterau proffesiynol trwy gynnig cyrsiau ar-lein hyblyg a fforddiadwy. Mae’r cyrsiau’n amrywio o gyfrifeg a chadw cyfrifon i ddysgu sut i ddefnyddio Microsoft Excel, ill dau’n ddefnyddiol i feithrin sgiliau entrepreneuraidd.

 3.    Ar yr awyr, ar-lein

Dechreuodd Brynmawr FM ddarlledu’n fyw yn 2004, gan gynnig cymysgedd o gerddoriaeth a newyddion lleol i bobl Blaenau Gwent. Mae gwrandawyr ar-lein yn gallu gweld rhestr o ganeuon, anfon ceisiadau a gweld pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill ym Mlaenau Gwent a’r cylch.

 4.    Y cyfryngau cymdeithasol yn hybu ysbryd cymunedol

Sefydlwyd blog ‘My Blaenau Gwent’ yn 2013, ac mae’n bosib mai dyma’r pwynt cyfeirio mwyaf cynhwysfawr o ran gwybodaeth i drigolion Blaenau Gwent sydd eisiau’r newyddion diweddaraf, a gwybodaeth am gynlluniau’r cyngor a digwyddiadau’r ardal trwy gyfrwng Twitter, Facebook a’i gwefan ei hun.  

5.    Help llaw

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn hybu mentrau lleol fel y clwb gwaith yn llyfrgell Glynebwy, sy’n helpu pobl i baratoi CV a chwilio am waith ar-lein, yn ogystal â chynllun ‘Dyddiau Gwener Digidol’ sy’n rhoi cymorth ar-lein i bobl â phroblemau technegol ac yn eu helpu i gysylltu â’r we mewn awyrgylch anffurfiol.

6.    Seminarau ar-lein i bobl leol

Bydd unrhyw un â busnes bach ym Mlaenau Gwent yn gallu elwa ar gynghorion ac awgrymiadau iechyd a diogelwch hanfodol diolch i seminar am ddim ar y we sy’n cael ei ffrydio bob mis, a lansiwyd gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch mewn partneriaeth â HMRC.

Mae band eang cyflym iawn ar gael i’r rhan fwyaf o Flaenau Gwent diolch i gynllun Cyflymu Cymru – ffrwyth partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Gyda 97% o’r prosiect bellach wedi’i gwblhau ym Mlaenau Gwent, mae’r rhan fwyaf o berchnogion cartrefi a busnesau yn gallu cyrchu band eang cyflym iawn erbyn hyn.

I wybod mwy am fand eang cyflym iawn, gan gynnwys pa wasanaeth band eang sydd ar gael yn eich ardal chi, ewch i www.llyw.cymru/bandeang

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth i rai nad ydynt wedi derbyn band eang cyflym iawn eto, oherwydd efallai bod cymorth ar gael trwy gynllun ‘Allwedd Band Eang Cymru’ gan Lywodraeth Cymru.