5G yng Nghymru: Cyhoeddi Miliynau o Bunnau o Gyllid Partneriaeth

Mae’r Llywodraeth yn ddiweddar wedi cyhoeddi pecyn cyllid £65 miliwn ar gyfer profion 5G. Dyfarnwyd £5 miliwn i nifer o brosiectau ar gyfer prosiect Cymunedau Cysylltiedig yn yr Economi Gwledig (CoCoRE).

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn croesawu’r newyddion yma. Bydd prosiect CoCoRE yn dangos sut y gall technoleg 5G wella ac agor cyfleoedd newydd i fusnesau a phreswylwyr fydd yn mynd i’r afael ag unigrwydd gwledig, gwella diogelwch ffermio a chefnogi’r sector twristiaeth. Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid lle’r ydym yn datblygu datrysiadau blaengar ac o’r math diweddaraf i broblemau sy’n wynebu ein cymunedau gwledig.

“Mae prosiect CoCoRE yn ddull ar y cyd a gaiff ei gyflwyno gan nifer o bartneriaid yn cynnwys Cyngor Sir Fynwy a Phrifysgol Caerdydd.

“Mae’r Cyngor yn gweld cyfleoedd buddsoddi sylweddol i’r ardal drwy brosiectau tebyg i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Cymoedd Technoleg. Ac mae’r prosiect hwn yn ychwanegu cyfleoedd pellach i gynnal busnes yn yr ardal a chefnogi twf economaidd.”

Bydd 5G yn cynyddu galluedd symudol yn enfawr ar draws Cymru. Bydd trosglwyddo cyflymach a llai o segurdod gyda felly fwy o alluedd ar gyfer cysylltiadau o bell a nifer uwch o ddyfeisiau wedi cysylltu. Bydd hyn yn golygu y gall pobl fynd ar-lein yn gyflymach, lawrlwytho cynnwys yn gyflymach a thrawsnewid y ffordd yr ydym yn rhyngweithio a darparu gwasanaethau.

Bydd yn dod â buddion eraill tu hwnt i gyflymder a chysylltiadau o bell. Gallai’r cyfuniad o gyflymder, ymatebolrwydd a chyrraedd ddatgloi galluoedd llawn tueddiadau eraill mewn technoleg, gan roi hwb i geir sy’n gyrru eu hunain, dronau, realiti rhithwir a rhyngrwyd pethau (IoT).

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymroddedig i ddileu’r gwahaniaeth mewn cysylltiadau rhwng ardaloedd trefol a gwledig, tra’n ymchwilio ffyrdd arloesol i ddefnyddio technoleg 5G i ddatblygu diwydiannau sy’n dod i’r amlwg, gan gefnogi ein heconomi wledig yng Nghymru.

“Mae cyhoeddiad heddiw yn gyfle gwych i rannau gwledig o Gymru i hybu cynhyrchiant a chapasitii eu seilwaith digidol ac mae’n ffurfio rhan allweddol o’n cynlluniau i adeiladu’r Deyrnas Unedig i fod yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Cafodd y cyllid o £65 miliwn ei wahanu yn ddau gategori ar wahân:

• Enillwyr pot cyllid £35 miliwn i helpu’r Deyrnas Unedig i ddatgloi potensial 5G
• Lansio cystadleuaeth 5G £30 miliwn ar gyfer sectorau


Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy glicio ar y ddolen islaw:
https://uk5g.org/5g-updates/read-articles/new-65-million-package-5g-trials/