£300,000 i wella cyfleusterau chwaraeon Tredegar

Gwnaeth Cyngor Blaenau Gwent gais llwyddiannus am £200,000 gan Chwaraeon Cymru i wella cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn Nhredegar.

Caiff yr astroturf yng Nghanolfan Chwaraeon Tredegar ei uwchraddio gydag wyneb 3G newydd sbon erbyn y Gwanwyn 2020. Mae angen gwella'r astroturf presennol er mwyn cynyddu defnydd, yn arbennig ar gyfer timau lleol sy'n teithio allan o'r sir i hyfforddi a chwarae gemau.

Bydd y cyfleuster newydd yn un defnydd deuol a bydd ar gael i ddisgyblion o Ysgol Gyfun Tredegar, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ac ar gael i dimau chwaraeon lleol ei logi. Mae hefyd yn gyfle i helpu annog a thyfu mwy o dimau ieuenctid, yn ogystal â chwaraeon menywod ac anabledd.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg y Cyngor:

"Mae hyn yn newyddion gwych i'r ysgol ac i'r gymuned chwaraeon yn Nhredegar a'r cylch. Drwy gynnig cyfleusterau lleol ansawdd uchel ar garreg y drws, gobeithiwn y gallwn annog mwy o dimau ac athletwyr i aros yn yr ardal. Mae medru llogi'r llain eto yn golygu cynhyrchu incwm fel y gallwn sicrhau bod y cyfleusterau yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

"Fel Cyngor rydym yn ymroddedig i hyrwyddo a gwella llesiant preswylwyr lleol a byddwn yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid i annog a chefnogi ffyrdd iach o fyw ac mae medru darparu cyfleusterau o'r radd orau yn rhan o hyn."

Dywedodd Phil Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Hamdden Aneurin:

"Mae Hamdden Aneurin yn edrych ymlaen yn fawr at weithio mewn partneriaeth gydag Ysgol Gyfun Tredegar i weithredu a rheoli'r llain 3G newydd sbon. Mae angen mawr am y buddsoddiad yn Nhredegar a bydd yn agor cynifer o gyfleoedd i helpu gwella iechyd a llesiant y gymuned."

Mae cyfanswm cost y prosiect yn £303,000, gyda'r gweddill yn cael ei gyllido o Raglen Ysgolion y 21ain Ganrif, sy'n bartneriaeth rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Bydd y Cyngor, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ac Ysgol Gyfun Tredegar yn rheoli'r cyfleusterau ar y cyd.

Dywedodd Charlotte Leaves (Pennaeth) a'r Cynghorydd John Morgan (Cadeirydd Llywodraethwyr) Ysgol Gyfun Tredegar:

"Mae'r ysgol wrth ei bodd gyda'r newyddion! Yng ngoleuni'r Cwricwlwm Newydd ar gyfer Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, bydd y cyfleuster 3G newydd yn rhoi cyfle gwych i ni hybu y yr agenda iechyd a llesiant ymhellach ar gyfer ein holl ddisgyblion. Mae'r uwchraddiad dechreuol yn gorffen cam cyntaf yr achos busnes, a'n nod yw gweithio'n agos gyda'n partneriaid wrth i ni symud i sicrhau cam dau o'r achos busnes. Bydd hyn yn cwmpasu mwy o ddarpariaeth 3G gydag uwchraddio'r maes pêl-droed glaswellt. Rhagwelir y bydd yr holl waith uwchraddio wedi ei orffen erbyn 2013 a bydd hyn yn rhoi'r cyfleusterau addysg awyr agored a hyfforddiant o'r radd flaenaf y mae ein plant a'n cymuned yn eu haeddu".