100 o Gartrefi Newydd Yng Nglynebwy

Lovell yn sicrhau tir ar gyfer 100 o gartrefi newydd yng Nglynebwy

Mae Lovell, cwmni datblygu tai partneriaeth blaenllaw, wedi cwblhau caffaeliad safle tir llwyd yn nhref Glynebwy i baratoi ar gyfer 100 o gartrefi newydd ansawdd uchel daliadaeth cymysg.

Caiff y cynllun £16.8 miliwn, sydd ym Mryn Serth ger Heol Waun-y-Pound ar gyrion gogledd orllewinol y dref, ei gyflwyno mewn partneriaeth gyda chymdeithas tai Cartrefi Melin, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu ar yr hen chwarel ddechrau yn haf 2019 a chael ei orffen yn 2022. Unwaith y bydd yn barod, bydd y prosiect yn darparu 70 o dai ar werth ar y farchnad agored a 30 o gartrefi fforddiadwy, yn cynnwys rhent cymdeithasol a Pherchentyaeth Cost Isel.

Bydd elfen gwerthu ar y farchnad y datblygiad, a elwir yn Golwg y Bryn, yn cynnwys amrywiaeth o gartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely yn ogystal â dau gartref arddangos tair ystafell wely y disgwylir y byddant yn agor eu drysau yn y gaeaf eleni.

Bydd yr elfen fforddiadwy yn cynnwys fflatiau dwy ystafell wely, yn ogystal â thai dwy a thair ystafell wely.

Dywedodd James Duffett, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Lovell:

"Rydym yn falch iawn i sicrhau'r tir hwn, fydd â rôl hanfodol mewn darparu cartrefi newydd ar gyfer prynwyr tro cyntaf, rhai sy'n prynu eu hail neu drydydd gartref a theuluoedd ar eu prifiant fel ei gilydd.

"Bydd y datblygiad hefyd yn rhoi manteision newydd i'r economi leol a'r gymuned, a bydd yn creu nifer sylweddol o gyfleoedd hyfforddi a swyddi yn ogystal â chyfres o brosiectau cymunedol."

Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin:

"Mae cynllun Bryn Serth yn newyddion ardderchog i Flaenau Gwent. "Mae'r prosiect yn enghraifft gwych o sut y gall cydweithredu fod o fudd i bobl a chymunedau.

"Bydd y datblygiad yn cynnig 30% o dai fforddiadwy i'r ardal, ac rydym yn falch i fod yn rhan ohono." Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

"Rydym yn buddsoddi £2.8m i adeiladu 30 o dai fforddiadwy drwy'r cynllun hwn gan weithio mewn partneriaeth gyda Lovells, Melin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Glynebwy ac rwy'n edrych ymlaen at weld y datblygiad yn dod yn ei flaen."

Meddai'r Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio Cyngor Blaenau Gwent:

"Mae'r datblygiad ym Mryn Serth, Glynebwy yn enghraifft wych o bartneriaeth ar waith rhwng Cartrefi Melin, CBS Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru a Lovell.

"Rydym eisiau i Flaenau Gwent fod yn lle gwych i fyw ynddo a bydd y cytundeb hwn yn galluogi darpariaeth cartrefi fforddiadwy ansawdd da y mae angen mawr amdanynt.

"Bydd yr ystod daliadaeth cymysg o dai dwy, tair a phedair ystafell wely yn creu cymuned newydd i'r ardal, tra'n mynd i'r afael â'r pwysau cynyddol i ddarparu cartrefi cynaliadwy gweddus ar gyfer y bobl sydd eu hangen."

Ychwanegodd y Cyng Nigel Daniels, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

"Mae datblygiad Bryn Serth yn dangos hyder cynyddol y sector tai preifat i fuddsoddi ym Mlaenau Gwent ac mae'n rhan o'n huchelgais am adfywio ehangach ar gyfer y fwrdeistref, gan greu economi mwy ffyniannus a chymunedau cryfach."

Wedi'i leoli o fewn milltir o ganol ffyniannus Glynebwy, mae gan y safle gysylltiadau mynediad rhagorol i orsaf drenau'r dref, sy'n cynnig gwasanaethau uniongyrchol i Gaerdydd a ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd.

Mae hefyd dair milltir oddi wrth Ganolfan Siopa Parc yr Ŵyl, sydd â detholiad o 40 o siopau, caffes a bw