Panel Dinasyddion Gwent

Beth yw Panel Dinasyddion Gwent?

Mae’r Panel Dinasyddion yn grŵp o bobl sy’n byw yng Ngwent, a gofynnir iddynt yn rheolaidd am eu barn ac fe ymgynghorir â nhw ar wasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i lunio gwasanaethau lleol a lleisio barn am benderfyniadau pwysig a materion yn y gymuned leol. Mae’r ymrwymiad yn isel; yn syml, gofynnir i chi gymryd rhan mewn cyfarfodydd bob dau fis ac ymgysylltu arlein mewn arolygon neu adborth ar adroddiadau ac asesiadau. Gallwch ddewis pa weithgareddau rydych eisiau cymryd rhan ynddyn nhw.

Gwneud Gwahaniaeth

Mae deall barn trigolion yn golygu ein bod yn gallu targedu adnoddau yn well a datblygu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pobl leol. Pwrpas y panel yw cael gwybod beth yw barn trigolion am faterion a gwasanaethau lleol.

Mae hyn yn ein helpu ni i wneud y peth iawn, ac mae’n bwydo gwybodaeth yn uniongyrchol i lunio polisi a chymryd penderfyniadau. Bydd adborth o’r panel yn cael ei adrodd i Gynghorwyr ac uwch reolwyr, i’w helpu nhw i gymryd penderfyniadau mwy gwybodus i wella bywydau pobl yn y fwrdeistref.

Ffyrdd Eraill o Leisio eich Barn

Mae’r Panel Dinasyddion yn grŵp o bobl sy’n byw yng Ngwent, a gofynnir iddynt yn rheolaidd am eu barn ac fe ymgynghorir â nhw ar wasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i lunio gwasanaethau lleol a lleisio barn am benderfyniadau pwysig a materion yn y gymuned leol. Mae’r ymrwymiad yn isel; yn syml, gofynnir i chi gymryd rhan mewn cyfarfodydd bob dau fis ac ymgysylltu arlein mewn arolygon neu adborth ar adroddiadau ac asesiadau. Gallwch ddewis pa weithgareddau rydych eisiau cymryd rhan ynddyn nhw.V

Dim ond un ffordd yw’r Panel Dinasyddion o sut rydym yn ceisio deall barn trigolion ledled Gwent yn well. Byddwn yn parhau i wrando ar farn bobl mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys ymgynghori arlein, arolygon papur a thrwy alluogi cyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd a thrwy Gynghorwyr lleol.

Cadw Gwybodaeth Bersonol Yn Ddiogel

Os hoffech chi gael gwybod mwy am sut rydym yn defnyddio a storio’r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni, mae rhagor o wybodaeth yn ein polisi preifatrwydd.

Mae’r wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rhyddhau a ellid adnabod unigolyn, sefydliad neu aelwyd pan fyddwn yn adrodd ar ddarganfyddiadau gweithgareddau ymgysylltu.

Hoffech chi Ymuno â Ni?

I ddod yn aelod o’r panel, rhaid i chi fod yn preswylio yng Ngwent, a bod dros 16 oed. Os hoffech ymuno, cysylltwch â ni yn citizenpanel@torfaen.gov.uk neu 01495 761691.

Os ydych eisoes yn aelod o’r panel dinasyddion ac os yw eich manylion cyswllt wedi newid, gadewch i ni wybod drwy ebost os gwelwch yn dda.