Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad 2024 i 2028

Wrth graidd popeth y mae’r Cyngor yn ei wneud mae cymuned Blaenau Gwent. Mae ymgysylltu, cyfranogiad a phrofiad cwsmeriaid yn thema allweddol sy’n rhedeg ar draws y Cyngor i siapio gwasanaethau a gwneud penderfyniadau.

Fel Cyngor rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod pawb yn chwarae eu rhan i wireddu ein gweledigaeth a chyflawni ein rhaglen uchelgeisiol ar gyfer gweithredu a newid. Agwedd a fydd yn allweddol i hyn fydd sut yr ydym yn ymgysylltu â chi – ein pobl, cymunedau, rhanddeiliaid, partneriaid, aelodau o staff a chynrychiolwyr etholedig.

Mae ein hymrwymiad ni i ymgysylltu hefyd yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni ddangos i chi ein bod ni fel Cyngor yn mynd ati’n frwd i’ch ystyried chi fel rhan o’n dyletswyddau newydd sydd wedi’u nodi mewn cyfraith gan ein llywodraeth yng Nghymru, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r deddfau hyn yn llwyr ddisgwyl i ni eich cynnwys chi yn ein ffyrdd o weithio.