Rwyn Penderfynu Fi - Ymgyrch Delwedd Corff Cadarnhaol

Fforwm Ieuenctid Blaenau Gwent yn Cyflwyno “Ymgyrch Delwedd Corff Positif”

Delwedd Corff Positif oedd blaenoriaeth Charlotte Clark, y cyn Faer Ieuenctid. Bu Charlotte ynghyd ag aelodau o Fforwm Ieuenctid Blaenau Gwent yn cydweithio i gynhyrchu ffilm fer a phosteri y gellir eu gweld islaw.

Darcey Howell yw ein Maer Ieuenctid newydd gyda Chloe Lines yn Ddirprwy Faer Ieuenctid. Y blaenoriaethau cyfredol yw Gweithgaredd Corfforol/Iechyd Meddwl a Bwlio.

Hoffech chi gymryd rhan a dweud eich barn?

Cysylltwch â Lissa Friel i gael mwy o wybodaeth ar 07870998187 neu lissa.friel@blaenau-gwent.gov.uk

Mae 'I Decide Me' yn ymgyrch delwedd corff gadarnhaol a grëwyd i helpu i roi awgrymiadau i chi ar ddod yn gorff positif a mabwysiadu agwedd "gwerthfawrogi fi amdanaf".

Syniadau Corff Cadarnhaol
“Fy ngwerthfawrogi am beth ydw I”

Cynghorion syml i dy helpu i ofalu amdanat dy hun.

GLANHAU DY GYFRYNGAU CYMDEITHASOL – Mae hyn yn cynnwys dad-ddilyn cyfrifon/tudalennau sy’n hyrwyddo cynnyrch diet heb fod yn iach neu sy’n gwneud i ti deimlo’n negyddol amdanat dy hun.

DY DDILLAD – Cofia fod dy ddillad i fod i dy ffitio di ac nid y ffordd arall o amgylch.

CADARNHAOL AM DY GORFF – Ysgrifenna bethau cadarnhaol amdanat dy hun ar nodiadau gludiog, yna’u rhoi mewn mannau y byddi’n edrych arnynt yn aml i dy atgoffa pa mor rhyfeddol wyt ti.

DY GLORIAN
– Cofia dy fod yn fwy na rhif ac nad yw cael pwysau corff uchel bob amser yn beth gwael. Pan fyddi’n ymarfer, mae dy gorff yn troi braster i gyhyrau a all mewn gwirionedd bwyso mwy na braster felly cofia hynny pan fyddi’n edrych ar y glorian.

CREU JAR HAPUS
– Bob tro y cei funud neu atgof hapus neu’n gwneud rhywbeth yr wyt yn falch ohono, ysgrifenna ef i lawr a’i roi mewn jar, byddi wedyn yn gallu defnyddio’r profiadau cadarnhaol i godi dy galon pan fyddi’n cael diwrnod gwael.

YMARFER
– Dylet ymarfer o leiaf 30 munud y diwrnod os medri, hyd yn oed os mai dim ond mynd am dro cyflym, mae manteision ymarfer a chadw’n ffit yn enfawr i dy gorff rhyfeddol a dy iechyd meddwl.

DIGON O GWSG
– Cofia gael digon o gwsg. Mae dy gorff angen 8-9 awr y dydd i helpu adfer/ailadeiladu er mwyn paratoi ar gyfer y diwrnod i ddod.

DŴR
– Mae 80% o dy gorff yn ddŵr felly mae’n bwysig yfed digon yn ystod y dydd i dy helpu i weithredu’n iawn.

#maeyniawnbodynti #newidcanfyddiadau #maepawbynhardd

Fy Nghorff Rhyfeddol
“Wyddech ti?”

Ffeithiau rhyfeddol am dy gorff

  • Mae dy gorff yn gwneud celloedd croen newydd drwy’r amser
  • Yn ogystal ag ôl-bysedd unigryw, mae gan bobl ôl tafod unigryw.
  • Pe byddent yn cael eu rhoi mewn rhes, gallai gwythiennau oedolyn fynd o amgylch cyhydedd y byd bedair gwaith drosodd.
  • Mae gwybodaeth yn carlamu ar hyd y nerfau ar tua 249 milltir yr awr.
  • Mae calon person yn curo mwy na thair biliwn o weithiau yn ystod oes arferol.
  • Y croen yw organ mwyaf y corff dynol ac mae’n ffurfio 15% o gyfanswm pwysau person.
  • Mae dy ymennydd weithiau’n brysurach pan fyddi’n cysgu na phan wyt yn effro.
  • Dy afu yw’r unig organ yn dy gorff fydd yn dal i weithio hyd yn oed os yw wedi ei niweidio a gall hefyd atgyweirio ei hun dros gyfnod.
  • Mae system gylchrediad gwythiennau ac ati tua 60,000 milltir o hyd.

#maeyniawnbodynti #newidcanfyddiadau #maepawbynhardd

Dogfennau Cysylltiedig