Hawl i Holi Ieuenctid Gwent 2022

Mae cyfle i bobl ifanc ledled Gwent gymryd rhan mewn digwyddiad 'hawl i holi' ar-lein sy'n cael ei gynnal gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent ddydd Iau 10 Mawrth 4.30pm - 6.30pm.

Mae'n gyfle i holi panel o weithwyr proffesiynol sy'n arbenigo mewn amrywiaeth eang o faterion y mae pobl ifanc wedi dweud wrthym ni sy'n bwysig iddyn nhw: 

- plismona
- iechyd meddwl
- cydberthnasau diogel ac iach
- mynd i'r afael â gwahaniaethu a throsedd casineb

Gellir anfon cwestiynau cyn y digwyddiad at: commissioner@gwent.pnn.police.uk neu yn ystod y sesiwn.
Dewiswch chi!

Cofrestrwch heddiw: https://www.eventbrite.co.uk/preview?eid=240930127497/?eid=240930127497/
Mae'r panel yn cynnwys:

- Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
- Pam Kelly, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent
- Dr Rachel Evans, Gwasanaeth Seicoleg a Therapïau Plant a Theuluoedd
- Kelly Harris, Brooke Cymru 
- Rebecca Stanton, Iechyd Meddwl a Lles Plant - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Chris Hunt, Tîm Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol
- Kelly Harris, Brooke Cymru