Bob blwyddyn, mae Cyfarwyddiaethau'n adolygu eu gweithgareddau, eu mesurau perfformiad a'u targedau o fewn eu cynlluniau gwasanaeth i sicrhau bod gwasanaethau:
- Cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o fewn yr adnoddau sydd ar gael;
- Cyfrannu at a chysylltu â'n hamcanion fel y'u nodir yn ein Cynllun Corfforaethol, Hunanasesiad Blynyddol y Cyngor, strategaethau a rhaglenni gwaith allweddol a Chynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus; a
- Cyflawni a bodloni ein dyletswyddau a'n gofynion statudol, yn enwedig gweithredu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Er bod proses flynyddol yn ymwneud â datblygu cynlluniau gwasanaeth, fe'i gwelir yn broses barhaus gyda chynlluniau'n hyblyg i ystyried blaenoriaethau a gweithgareddau newydd sy'n codi yn ystod y flwyddyn. Nid yw hynny'n golygu bod rhyddid i newid gweithgareddau a mesurau yn ystod y flwyddyn, ond trwy'r trefniadau llywodraethu priodol, wrth i raglenni / prosiectau / strategaethau / blaenoriaethau newydd ddod i'r amlwg, cytunir y dylid eu cynnwys yn y cynlluniau.
Felly, mae ein cynlluniau'n ddogfen hanfodol i bob un o'n Cyfarwyddiaethau. Dylent fod yn grynodeb cynhwysfawr o'r holl weithgarwch arwyddocaol y mae pob cyfarwyddiaeth yn ei gyflawni. Wrth adrodd ar y cynnydd a wnaed, dylai fod yn bosibl adrodd nid yn unig ar gynnydd o fewn y Gyfarwyddiaeth, ond hefyd ar gyfraniadau at gynlluniau a strategaethau sefydliadol allweddol.
Bydd monitro cynlluniau gwasanaeth yn rheolaidd yn galluogi'r Cyngor i fonitro camau gweithredu allweddol sy'n gysylltiedig â Chynllun Corfforaethol a chynlluniau cyflawni strategol y Cyngor.
Bydd ein hadroddiadau monitro yn ystod y flwyddyn hefyd yn cael eu defnyddio i lywio ein hadroddiad Hunanasesiad a Llesiant statudol, a gyhoeddir yn flynyddol ym mis Hydref, bob blwyddyn.