Cynghorau Bwrdeistref, Cymuned a Thref

Cynghorau tref a chymuned yw lefel llawr gwlad llywodraethiant lleol yng Nghymru. 

Mae dros 730 o gynghorau cymuned a thref ledled Cymru. Mae rhai'n cynrychioli poblogaethau o lai na 200 o bobl, eraill yn cynrychioli poblogaethau o dros 45,000 o bobl, ond maent i gyd yn gweithio i wella ansawdd bywyd ac amgylchedd dinasyddion eu hardaloedd. 

Mae cynghorau cymuned a thref yn atebol i bobl leol ac mae ganddynt ddyletswydd i gynrychioli diddordebau gwahanol rannau o'r gymuned yn gyfartal. 

Mae tua 8,000 o bobl yng Nghymru yn rhoi gwasanaeth gwirfoddol fel cynghorwyr cymuned a thref. I rai, y gwaith hwn yw'r cam cyntaf tuag at yrfaoedd gwleidyddol ar lefelau uwch mewn llywodraeth leol neu genedlaethol. 

Y Cynghorau Tref a Chymuned ym Mlaenau Gwent yw:

Cyngor Tref Tredegar:

www.tredegartowncouncil.co.uk

Cyngor Tref Nant-y-glo a Blaenau:

www.nantygloandblainatc.co.uk

Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd:

www.abertilleryandllanhilleth-wcc.gov.uk

Cyngor Tref Bryn-mawr:

www.brynmawrtc.co.uk