- Mae'r Cabinet yn cynnwys Arweinydd (Cynghorydd a benodir yn flynyddol gan y Cyngor) ac 4 Cynghorydd arall (a gaiff hefyd eu penodi'n flynyddol gan y Cyngor)
- Rhoddir Portffolio i bob Aelod o'r Pwyllgor Gwaith sy'n cyfeirio at swyddogaeth adrannol er bod rhai meysydd 'trawsbynciol'. Dylai'r Aelod o'r Pwyllgor Gwaith roi arweinyddiaeth wleidyddol yn y portffolio a rhoi cyfeiriad gwleidyddol i ddatblygu polisi o fewn y portffolio;
- Caiff y Portffolios eu hadleisio gan Bwyllgor Craffu. Nid yw'r Aelod o'r Pwyllgor Gwaith yn Aelod o'r Pwyllgor hwnnw ond gall gymryd rhan drwy wahoddiad yn unig. Diben aelod o'r Pwyllgor Gwaith yn mynychu'r Pwyllgor Craffu yw i gael ei holi gan y Pwyllgor ar eitem benodol ar yr agenda. Nid yw'r Aelod o'r Pwyllgor Gwaith yn mynychu i ofyn cwestiynau i'r swyddogion.
- Cyhoeddir busnes y Pwyllgor Gwaith mewn blaenraglen gwaith sy'n gysylltiedig â blaenoriaethau'r Cyngor ac eitemau ym Mlaenraglenni Gwaith y Pwyllgorau Craffu.
Aelodaeth 2025 - 2026 - Pwyllgor Gwaith
Arweinydd ac Aelod Cabinet - Adnoddau Corfforaethol
Cynghorydd Stephen Thomas
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Oedolion a Chymunedau
Cynghorydd Helen Cunningham
Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Cynghorydd Sue Edmunds
Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdogaeth ac Amgylcheddol
Cynghorydd Tommy Smith
Aelod Cabinet – Yr Economi a Lleoedd
Cynghorydd John C. Morgan