Olrhain Cysylltiadau COVID-19 – Hysbysiad Preifatrwydd

Pwrpas yr hysbysiad hwn

Darparwyd yr hysbysiad hwn i chi gan y sefydliad sy’n gyfrifol am brosesu eich gwybodaeth bersonol ac fe’i bwriedir i ategu Hysbysiad Preifatrwydd safonol y sefydliad hwnnw. Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu yn ystod yr amgylchiadau penodol ynghylch COVID-19 a’r rhaglen Profi Olrhain Diogelu. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r sefydliad yn prosesu eich gwybodaeth, gan gynnwys eich hawliau fel testun data a sut i’w hymarfer, dylech ymgynghori â’u Hysbysiad Preifatrwydd safonol, a fydd ar gael ar eu gwefan (gweler y manylion isod), neu cysylltwch â’u Swyddog Diogelu Data.

Cyflwyniad

Mae olrhain cysylltiadau yn ymagwedd sylfaenol at ymarfer iechyd y cyhoedd, sydd â’r nod o leihau nifer yr achosion eilaidd o glefyd heintus mewn achos a goblygiadau haint mewn achosion dilynol.

Yn ystod y cyfnod adfer nesaf hwn, bydd olrhain cysylltiadau yn ceisio cyflawni ei nod o leihau trosglwyddiad yr haint trwy nodi cysylltiadau a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r person â COVID-19 ar yr adeg yr oedd yr achos yn heintus.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma https://gov.wales/contact-tracing-your-questions

Y sefydliadau sy’n prosesu eich data personol

Yn dibynnu ar ble rydych yn byw a’r cysylltiad rydych wedi ei gael trwy’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau, gallai un neu ragor o’r sefydliadau a restrir isod brosesu eich data. Mae gan holl enwau’r sefydliadau y statws ‘Cyd-Reolydd Data’, sy’n golygu eu bod yn gyfreithiol gyfrifol am y data maent yn eu prosesu ac mae pob un ohonynt yn barti i gytundeb ledled Cymru sy’n amlinellu sut a pham maent yn prosesu’r wybodaeth honno.

  • Y 22 Awdurdod Lleol
  • Y 7 Bwrdd Iechyd Lleol
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre (trwy Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru – NWIS)
  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Prosesu’r data personol

I olrhain cysylltiadau pobl â COVID-19, bydd angen i olrheinwyr cysylltiadau gasglu data personol.  Bydd y data y byddwn yn eu casglu amdanoch yn cynnwys y canlynol:

  • Enw llawn
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd
  • Rhif GIG
  • Cyfeiriad llawn, gan gynnwys cod post
  • Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Manylion am symptomau COVID-19
  • Manylion am ganlyniadau prawf COVID-19
  • Data ar anabledd ac ethnigrwydd
  • Llefydd rydych wedi ymweld â hwy
  • Enwau a chyfeiriadau pobl rydych wedi bod mewn cysylltiad agos â hwy

Os nad yw manylion cyswllt y rhai rydych wedi bod mewn cysylltiad â hwy yn hysbys, efallai y bydd angen i ni gysylltu â chyflogwyr am fanylion.

Pa mor hir y cedwir y data

Bydd y data y byddwn yn eu casglu ar gyfer pobl sydd wedi cael canlyniad prawf positif am COVID-19 yn cael eu cadw am 7 mlynedd.

Bydd y data a gesglir am gysylltiadau pobl â COVID-19 ond sydd heb unrhyw symptomau yn cael eu cadw am isafswm cyfnod cadw o 5 mlynedd.

Bydd canlyniadau profion a gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw gyflyrau parhaus sy’n gysylltiedig â COVID-19 hefyd yn cael eu cadw yn eich cofnod iechyd electronig am gyfnod hwy yn unol ag amserlenni cadw arferol y GIG.

Gwybodaeth a ddefnyddir at ddibenion eraill

Yn ogystal, gellid defnyddio gwybodaeth a gedwir ar gyfer y canlynol:

  • Deall COVID-19 a’r risgiau i iechyd y cyhoedd, tueddiadau mewn COVID-19 a risgiau o’r fath a rheoli ac atal lledaeniad COVID-19 a risgiau o’r fath
  • Nodi a deall gwybodaeth am gleifion neu gleifion posibl sydd â COVID-19 neu sydd mewn perygl o’i gael
  • Darparu gwasanaethau i gleifion, clinigwyr a’r gwasanaethau iechyd
  • Ymchwilio a chynllunio i COVID-19 (gan gynnwys y posibilrwydd o gael eich gwahodd i fod yn rhan o dreialon clinigol)
  • Monitro cynnydd a datblygiad COVID-19

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Dyma’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol at ddibenion olrhain cysylltiadau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data:

  • Erthygl 6(1)(e) – Tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir yn y rheolydd

Ar gyfer data categori arbennig, mae angen sail gyfreithiol ychwanegol fel a ganlyn:

  • Erthygl 9(2)(i) – Rhaid i brosesu fod yn angenrheidiol am resymau lles y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd (fel amddiffyn rhag bygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd neu sicrhau safonau uchel o ansawdd a diogelwch gofal iechyd ac o gynhyrchion meddyginiaethol neu ddyfeisiau meddygol)
  • Erthygl 9(2)(h) – Darparu meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, gofal neu driniaeth iechyd neu gymdeithasol, neu reoli systemau iechyd neu ofal cymdeithasol

Deddfwriaeth berthnasol arall

  • Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984
  • Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd (Rheoli Gwybodaeth am Gleifion) 2002
  • Deddf y Coronafeirws 2020
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

Cysylltiadau Defnyddiol

Gallwch ddod o hyd i fanylion ar sut mae’r Bwrdd Iechyd Lleol neu’r Awdurdod Lleol yn ymdrin â gwybodaeth trwy fwrw golwg ar eu hysbysiadau preifatrwydd lleol eu hunain. 

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eich Bwrdd Iechyd Lleol a’ch Awdurdodau Lleol trwy fynd i:

https://www.wales.nhs.uk/ourservices/directory/LocalHealthBoards

https://www.wlga.wales/welsh-local-authority-links

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cymorth, cyngor ac arweinyddiaeth arbenigol ar lefel genedlaethol, a gefnogir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, sy’n darparu’r platfform digidol.

Os hoffech ragor o wybodaeth am sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymdrin â’ch data personol, neu sut rydym yn gweithio gyda phroseswyr data, gweler ein prif Hysbysiad Preifatrwydd trwy fynd i:

https://phw.nhs.wales/use-of-site/privacy-notice/

Os hoffech ragor o wybodaeth am sut mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn ymdrin â’ch data personol, neu sut rydym yn gweithio gyda phroseswyr data, gweler ein prif Hysbysiad Preifatrwydd trwy fynd i:

https://nwis.nhs.wales/use-of-site/privacy-policy/

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch y modd yr ymdriniwyd â’ch data personol, dylech gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn eich Awdurdod Lleol neu eich Bwrdd Iechyd Lleol yn y lle cyntaf. Gallwch fynd ati i wneud hyn trwy ddefnyddio’r cysylltiadau a restrir uchod.

Fodd bynnag, os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth trwy ddefnyddio’r cyfeiriad canlynol:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill,
Ffordd Churchill,
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn 0330 414 6421
E-bost: wales@ico.org.uk