Trwyddedau Gyrrwyr Cerbyd Hacni /Cherbyd Hur Preifat

Beth yw Trwyddedau Gyrrwyr Cerbyd Hacni/Cherbyd Hur Preifat?

Caiff trwyddedau gyrrwr cerbyd hacnai/cherbyd hur preifat eu galw fel arfer yn drwyddedau 'gyrrwr tacsi' ac maent yn caniatau i'r deiliad yrru un ai gerbyd hacnai trwyddedig Blaenau Gwent a/neu gerbyd llog preifat arall. Fel arfer caiff trwyddedau eu rhoi am uchafswm cyfnod o 3 blynedd.

Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli Trwyddedau Gyrrwr Cerbyd Hacnai/Cherbyd Hur Preifat?

 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a Deddf Cymalau Heddlu Tref 1847.

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw un 18 oed neu drosodd wneud cais, cyn belled ag y bu ganddynt drwydded yrru lawn DVLA am gyfnod o 12 mis o leiaf.

 

Beth yw'r broses gais?

 Bydd angen i bob ymgeisydd am drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gwblhau prawf gwybodaeth a mynychu cwrs diogelu; mae’r ddau’n cael eu cynnal a’u rheoli gan Ganolfan Hyfforddiant Torfaen.  Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â Torfaen Training ar 01633 875929 - anfonir pecyn adolygu cyn y prawf. Mae'n rhaid wedyn ddangos tystiolaeth i Dîm Trwyddedu y Cyngor y cafodd y prawf ei orffen a'i basio a byddant wedyn yn cyhoeddi pecyn cais.

Yn ogystal â gwiriadau perthnasol i ganfod a yw person yn ‘berson addas a phriodol’, ni all awdurdodau lleol roi trwydded gyrrwr neu weithredwr oni fônt wedi’u bodloni bod gan yr ymgeisydd yr hawl i aros a gweithio yn y Deyrnas Unedig.

Er y gall awdurdodau lleol roi trwyddedau o’r fath i bobl sy’n destun rheolaeth fewnfudo ac sydd ag amser cyfyngedig yn unig i aros yn y Deyrnas Unedig, ni allant eu rhoi ond am gyfnod penodedig ac mae’n rhaid i’r cyfnod hwnnw ddod i ben ar ddiwedd neu cyn diwedd cyfnod y caniatâd i aros. Bydd trwyddedau’n mynd yn ddi-rym yn awtomatig pan fydd y statws mewnfudo’n newid ac mae deiliad y drwydded yn dod yn anghymwys i breswylio a gweithio’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig. Bydd unrhyw berson nad yw’n dychwelyd ei drwydded yn cyflawni trosedd

Yn dilyn derbyn y pecyn cais mae'n rhaid i ymgeiswyr:-

  • llenwch y ffurflen mewn inc du

  • Gwneud cais ar-lein am adroddiad Estynedig y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS (cofnod record troseddol) i fadv.onlinedisclosures.co.uk

  • Cysylltu â Thîm Trwyddedu y Cyngor ar 01495 355485 i wneud apwyntiad i gyflwyno'r cais a ffi

  • Dangos trwydded yrru lawn gyfredol DVLA i'w harchwilio, a gyhoeddwyd dan Ran III Deddf Traffig Ffyrdd 1988, neu drwydded gan wladwriaeth EEA arall am o leiaf 2 mlynedd, y mae'n rhaid iddi fod yn ddilys am 12 mis cyn dyddiad y cais

  • cynhyrchu cod gwirio DVLA

  • cynhyrchu cod siec treth HMRC (adnewyddu yn unig)

  • Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi treulio mwy na chwe mis di-dor neu fwy y tu allan i’r DU ers eu degfed pen-blwydd ddarparu tystiolaeth o wiriad cofnodion troseddol o’r wlad/gwledydd yr ymwelwyd â nhw ar gyfer y cyfnod y treuliodd yr ymgeisydd dramor. Ar gyfer dinasyddion yr UE a dinasyddion y DU, dylai sieciau addas fod ar gael. Ar gyfer y gwledydd hynny lle nad oes sieciau ar gael ar eu cyfer rhaid darparu Tystysgrif Ymddygiad Da, wedi'i dilysu, ei chyfieithu a'i selio gan y Llysgenhadaeth neu'r Uchel Gomisiwn ar draul yr ymgeisydd ei hun (https://www.gov.uk/government/publications/criminal-records-checks-for-overseas-applicants)

  • Cyflwyno o leiaf 2 ddull arall derbyniol o adnabyddiaeth

Pan mae'r Tîm Trwyddedu yn derbyn gwybodaeth GDG a DVLA, caiff y penderfyniad am y cais ei ddirprwyo fel arfer i swyddogion Trwyddedau.  Fodd bynnag, lle dynodwyd troseddau, rhybuddion ac ati, mae gan swyddogion y pŵer i atgyfeirio'r cais i'r pwyllgor Trwyddedu a all wedyn rhoi neu wrthod rhoi trwydded.

Os rhoddir trwydded, mae'n rhaid i'r ymgeisydd gael adroddiad meddygol boddhaol gan ei feddyg ef/hi cyn y medrir rhoi'r drwydded (bydd y Tîm Trwyddedu yn darparu'r ffurflen feddygol ar yr amser priodol).  Nodwch fod yr awdurdod trwyddedu yn mynnu bod pob ymgeisydd yn bodloni safon feddygol Grŵp II y DVLA.

Rhoddir trwyddedau am uchafswm o 3 blynedd.

A allaf wneud cais ar-lein?

 Na, ni dderbynnir ceisiadau ar-lein ar gyfer y math yma o drwydded.

Faint yw'r gost?

Mae ffi'r drwydded yn £264. Mae'r ffi am DBS Estynedig yn £49.13 (£49.56 – 1/5/2024)

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?

 Fel arfer mae'n cymryd chwech i wyth wythnos i brosesu ceisiadau fodd bynnag mae hyn yn dibynnu ar faint o amser a gymerir i'r DBS gwblhau eu gwiriadau ac os atgyfeirir y cais i'r Pwyllgor Trwyddedu'r Cyngor i'w benderfynu, sydd fel arfer yn cwrdd unwaith y mis.

Ni fydd caniatâd dealledig yn weithredol ar gyfer y trwyddedau hyn, h.y. os nad ydych yn clywed unrhyw beth o fewn y cyfnod penodol, ni allwch dybio'n awtomatig y cytunwyd i'r cais.

 A allaf wneud cais os gwrthodir fy nghais?

 Gallwch, gallwch apelio at y Llys Ynadon os gwrthodir eich cais o fewn 21 diwrnod o gael eich hysbysiad mewn ysgrifen am y penderfyniad.

 Cwynion defnyddwyr

 Os oes gennych gŵyn am unrhyw broblem yn ymwneud â gweithgareddau tacsi trwyddedig neu heb drwydded, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu ar 01495 355059