Trwydded Cerbyd Hacnai

Beth yw Cerbyd Hacnai?

Caiff cerbydau hacnai ei galw yn 'tacsis' fel arfer. Gellir eu galw yn y stryd neu gallant weithio o unrhyw un o'r pedwar safle tacsi yn y fwrdeisdref. Gellir ei hadnabod drwy olau ar y to ar ben y cerbyd sydd wedi'i gysylltu â mesurydd tu mewn i'r cerbyd. Bydd golau ymlaen pan mae'r tacsi ar gael i'w logi a dylid troi'r golau i ffwrdd pan fydd y mesurydd ar waith pan fo'r gyrrwr yn cario teithiwr sy'n talu. Gellir eu hadnabod drwy eu phlât trwydded melyn a ddangosir yng nghefn y cerbyd. Caiff trwyddedau eu cyhoeddi fel arfer am uchafswm cyfnod o un flwyddyn.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar y math o gar y gallaf ei ddefnyddio fel tacsi?

Rhaid i'r cerbyd fod yn llai na 5 oed ar y trwyddedu cyntaf a gellir ei drwyddedu nes ei fod yn 10 oed y bernir nad yw'n deilwng i barhau i gael ei drwyddedu fel cerbyd hacni gan archwiliwr cerbyd cymeradwy'r Cyngor.

A gaiff fy ngherbyd ei brofi neu a fydd fy MOT arferol yn ddigonol?

Bydd angen i'r cerbyd gael ei brofi i o leiaf safonau MOT gan archwilydd cerbydau cymeradwy y Cyngor cyn y rhoddir trwydded.

A wyf angen sicrwydd yswiriant arbennig?

Mae'n rhaid i'r cerbyd gael ei yswirio ar gyfer ei logi a dibenion gwobr ar gyfer defnydd cerbyd hacnai. Mae'n rhaid i chi hefyd sicrhau fod sicrwydd ar gael ar gyfer unrhyw yrrwyr tacsi trwyddedig eraill i'ch galluogi i'w cyflogi os yn berthnasol.

Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli Trwyddedau Cerbyd Hacnai?

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) a Deddf Cymalau Heddlu Tref 1847.

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw un gyda diddordeb cyfreithiol mewn cerbyd wneud cais am drwydded cerbyd hacnai.

Beth yw'r broses gais?

Mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno'r dogfennau dilynol fel rhan o'r broses gais:-

  • Ffurflen gais wedi'i llenwi gan bob parti
  • Syml DBS
  • Ffi trwydded
  • Dogfen gofrestru ('llyfr log')
  • Tystysgrif yswiriant modur/nodyn gorchudd ar gyfer dibenion cerbyd hacnai
  • Tystiolaeth o berchnogaeth
  • Tystysgrif MOT os yw'r cerbyd dros 3 oed
  • Tystiolaeth o berchnogaeth a chalibreiddiad mesurydd

Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â'r Tîm Trwyddedu a gwneud trefniadau i gyflwyno'r dogfennau uchod. Bydd swyddogion trwyddedu wedyn yn gwneud yr apwyntiad angenrheidiol gydag Archwilydd Cerbydau Cymeradwy y Cyngor i'r cerbyd gael ei archwilio i sicrhau ei fod mewn cyflwr digon da i gael trwydded fel cerbyd hacnai.

Os yw'r cerbyd yn pasio'r prawf, bydd yr archwilydd yn gosod y platiau trwydded cefn a ac yn cyhoeddi tystysgrif cydymffurfiaeth. Y Swyddog Trwyddedu fydd yn cyhoeddi'r trwydded papur a'r platiau trwydded mewnol.

A allaf wneud cais ar-lein?

Na, ni chaiff ceisiadau ar-lein eu derbyn ar gyfer y math yma o drwydded.

Faint yw'r gost?

Mae'r ffi drwydded i'r cais cyntaf yn £310 a ffi cais adnewydd yn £243.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig?

Fel arfer mae'n cymryd rhwng un a dwy wythnos i brosesu ceisiadau fodd bynnag mae hyn yn dibynnu os oes apwyntiad ar gael ar gyfer archwilio'r cerbyd.

Nid oes caniatâd dealledig ar gyfer y trwyddedau hyn, h.y. os nad ydych yn clywed dim gennym o fewn y cyfnod penodol; ni allwch gymryd yn awtomatig y cytunwyd i'r cais.

Cwynion defnyddwyr

Os oes gennych gŵyn am unrhyw fater yn ymwneud â gweithgareddau tacsi trwyddedig neu heb drwydded, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu ar 01495 355485.

Gwybodaeth Gyswllt