Limousines a Cherbydau Anarferol

Beth yw limousines a cherbydau anarferol?

Mae limousines neu 'limos hir' yn draddodiadol wedi'u defnyddio fel ceir priodasau ac angladdau ond maent mewn blynyddoedd diweddar wedi symud i  brif ffrwd hurio preifat. Fel arfer cânt eu mewnforio o America ac maent yn gerbydau ffatri safonol a addaswyd drwy ymestyn y pellter rhwng echelydd. Mae cerbydau anarferol, er enghraifft hen ambiwlansys ac injans tân hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer hurio preifat.

Mae'r Cyngor wedi datblygu system drwyddedu ar gyfer y mathau hyn o gerbydau os gallant gyflawni meini prawf neilltuol, e.e. seddi i wyth neu lai o deithwyr, ac mewn cyflwr da yn fecanyddol.

Pa drwyddedau sydd eu hangen?

Mae angen nifer o drwyddedau i redeg busnes limousines neu gerbydau anarferol. Mae angen trwydded gweithredydd cerbydau hurio preifat ar gyfer y busnes ei hun. Mae angen i bob gyrrwr gael trwydded gyrrwr cerbyd hurio preifat ac mae'n rhaid cyhoeddi trwyddedau cerbyd hurio preifat ar gyfer pob cerbyd.

A gaiff y cerbydau eu profi?

Bydd angen i archwilydd cerbydau a gymeradwyir gan y Cyngor cyn y cyhoeddir trwydded. Cynhelir archwiliadau rheolaidd, ar draul y trwyddedai, fel arfer ar gyfnodau pedwar neu chwe mis, yn dibynnu ar oed y cerbyd.

A fyddaf angen sicrwydd yswiriant arbennig?

Mae'n rhaid i chi sicrhau fod yr yswiriant yn cynnwys dibenion hurio a thâl, ar gyfer defnydd hurio preifat. Mae'n rhaid i chi sicrhau fod yswiriant ar gael i bob gyrrwr trwyddedig arall i'ch galluogi i'w cyflogi, os yn berthnasol.

Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli limousines a cherbydau anarferol?

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw un gyda diddordeb cyfreithiol mewn cerbyd wneud cais am drwydded cerbyd hurio preifat a gall unrhyw berson dros 18 oed wneud cais am drwydded gyrrwr neu drwydded gweithredwr.

Beth yw'r broses gais?

Mae gwybodaeth cais am drwyddedau gweithredwr a gyrrwr ar gael drwy'r dolenni perthnasol.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr ar gyfer trwyddedau cerbyd gyflwyno'r dogfennau dilynol fel rhan o'r broses gais:-

  • Ffurflen gais wedi'i llenwi gan bob parti
  • Syml DBS
  • Ffi trwydded
  • Dogfen mewnforio lle'n berthnasol
  • Tystysgrif Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA) lle'n berthnasol
  • Dogfen gofrestru ('llyfr log')
  • Tystysgrif yswiriant modur/nodyn gorchudd ar gyfer dibenion hurio preifat
  • Tystiolaeth o berchnogaeth
  • Tystysgrif MOT os yw'r cerbyd dros 3 oed

Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â'r Tîm Trwyddedu a gwneud trefniadau i gyflwyno'r dogfennau uchod. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd wedyn gysylltu â'r archwilydd cerbydau cymeradwy i wneud yr apwyntiad gofynnol i archwilio'r cerbyd i sicrhau ei bod mewn cyflwr digonol i'w drwyddedu fel cerbyd hurio preifat. Bydd yr archwilydd yn codi ffi ar wahân, sy'n rhaid ei dalu adeg y prawf. Os yw'r cerbyd yn pasio'r prawf, bydd yr archwilydd yn gosod y platiau trwydded cefn a sticeri drws, os yn briodol, ac yn cyhoeddi tystysgrif cydymffurfiaeth. Y Swyddog Trwyddedu fydd yn cyhoeddi'r drwydded bapur a phlatiau trwydded mewnol. Fodd bynnag gall deiliad y drwydded wneud cais ysgrifenedig am beidio dangos y platiau cerbyd a sticeri ar y cerbyd.

A allaf wneud cais ar-lein?

Na, ni dderbynnir ceisiadau ar-lein ar gyfer y math yma o drwydded. 

Faint yw cost trwydded limousine neu gerbyd anarferol?

Mae'r ffi drwydded i'r cais cyntaf yn £256, a ffi cais adnewydd yn £195. Mae hefyd ffi profi cerbydau yn daladwy i'r Archwilydd Cerbyd Cymeradwy.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu cais cerbyd ac a fydd caniatâd dealledig?

Mae'r amser prosesu cais fel arfer rhwng un a dwy wythnos fodd bynnag mae hyn yn dibynnu ar os oes apwyntiad ar gael ar gyfer archwilio cerbyd. Ni fydd caniatâd dealledig, h.y. os nad ydych yn clywed dim o fewn y cyfnod penodol, ni allwch dybio'n awtomatig y rhoddwyd y cais.

Cwynion defnyddwyr

Os oes gennych gŵyn am unrhyw fater yn ymwneud â gweithgareddau tacsi trwyddedig neu heb drwydded, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu ar 01495 355485.