Cynllun Tacsis Trydan
Mae'r Cynllun Tacsis Trydan yn rhoi cyfle i yrwyr tacsis trwyddedig yn Blaenau Gwent roi cynnig ar dacsi Nissan Dynamo E-NV200 trydan, gyda mynediad i gadeiriau olwyn, am 30 diwrnod er mwyn iddynt gael gweld buddion ariannol ac amgylcheddol cerbydau dim allyriadau.
Beth sy'n gynwysedig yn y cynllun?
Mae'r cynllun yn cynnwys:
- Cael defnyddio Nissan Dynamo E-NV200 trydan, gyda mynediad i gadeiriau olwyn, am 30 diwrnod
- trwyddedu'r cerbyd am ddim
- yswiriant torri i lawr am ddim (ac eithrio cerbyd wedi colli gwefr batri)*
Arolygon gwerthuso
Cyn, yn ystod, ac ar ôl cwblhau'r treial, bydd gofyn i'r gyrwyr gwblhau arolygon gwerthuso, a byddant yn cael mwy o wybodaeth am y cynlluniau a'r cymorth sydd ar gael er mwyn iddynt ddod yn berchen ar gerbydau dim allyriadau am y tymor hir.
Costau Blaendal
Mae'r cynllun yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio drwy gydol y peilot gyda'r eithriadau canlynol:
- Byddwn angen sicrhau blaendal o £100 a fydd yn cael ei ad-dalu'n llawn pan fydd y cerbyd yn cael ei ddychwelyd mewn cyflwr boddhaol glân.
- Codir cost adfer cerbyd os bydd y cerbyd wedi rhedeg allan o wefr batri*.
Pwy sy'n gallu cymryd rhan?
Darperir y cynllun ar gyfer Deiliaid Trwydded Cab Hacni sy'n gweithredu o Blaenau Gwent
I gymryd rhan yn y cynllun mae'n rhaid eich bod:
- Yn ddeiliad Trwydded Hacni o fewn ffiniau'r Awdurdod Lleol yr hoffech gymryd rhan yn y cynllun ynddo.
- Yn dal trwydded yrru lawn a roddwyd gan y DU heb fod â mwy na chwe phwynt cosb neu wedi'ch anghymhwyso rhag gyrru yn y gorffennol.
- Rhaid fod rhwng 25 i 75 mlwydd oed
- Heb fod yn rhan o fwy nag un gwrthdrawiad traffig ffordd yn y 3 blynedd blaenorol lle roedd bai arnoch.
Sut mae cymryd rhan?
Gallwch wneud cais ar-lein i gymryd rhan yn y cynllun.
English (electrictaxiswales.co.uk)
Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cais?
Ar ôl gwneud cais:
1. Bydd manylion y gyrrwr a'r drwydded tacsi yn cael eu gwirio.
2. Bydd ein Tîm Neilltuo yn cysylltu â'r cyfranogwr i gadarnhau a ydynt wedi bod yn llwyddiannus a thrafod dyddiadau posibl i gymryd rhan.
3. Bydd yr archeb yn cael ei throsglwyddo i'n cangen a fydd yn paratoi'r cerbyd yn barod i'w ddefnyddio.
4. Bydd y cerbyd yn cael ei drosglwyddo i chi yn dilyn archwiliad cyflwr cerbyd a fydd yn cael ei ailadrodd ar ddychweliad diogel y cerbyd.
5. Bydd cerdyn gwefru cerbyd trydan yn cael ei ddarparu am ddim i chi drwy gydol eich defnydd.
6. Gellir storio eich cerbyd cab trwydded hacni presennol yn ein lleoliad cangen dros gyfnod y treial - bydd taliadau storio yn berthnasol
Rhagor o wybodaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddatgarboneiddio'r Fflyd Tacsis erbyn 2028. Bydd cynlluniau peilot Tacsis Gwyrdd yn gymorth i gyrraedd y targed hwn gan y bydd yn hep i yrwyr tacsis sylweddoli buddion ariannol ac amgylcheddol cerbydau dim allyriadau, a fydd gobeithio'n cyfrannu at symud oddi wrth gerbydau disel a phetrol at Gerbydau Dim Allyriadau.