Beth yw Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN)?
Gellir defnyddio TEN ar gyfer digwyddiadau achlysurol awyr agored a dan do graddfa fach lle na ddisgwylir i fwy na 499 o bobl fod yn bresennol ar unrhyw un amser, yn cynnwys perfformwyr a stiwardiaid a pharhau dim mwy na 168 awr. Ni ellir rhoi dim mwy na 15 TEN yng nghyswllt un mangre neilltuol bob blwyddyn galendr, yn gyfanswm o 21 diwrnod. Rhaid bod o leiaf 24 awr rhwng digwyddiadau yn yr un mangre.
Gellir defnyddio TEN ar gyfer y gweithgareddau dilynol y mae angen trwydded ar eu cyfer:
- gwerthu alcohol drwy fanwerthu
- cyflenwi alcohol gan neu ar ran clwb neu i archeb aelod o'r clwb
- darparu adloniant wedi'i reoleiddio
- darparu lluniaeth hwyr y nos
Mae'n rhaid anfon TEN i'r Cyngor Trwyddedu, ynghyd â'r ffi perthnasol, a chopi i Heddlu Gwent a Swyddfa Iechyd yr Amgylchedd ddim mwy na deg diwrnod gwaith cyn digrnod y digwyddiad. Gellir anfon TEN hwyr mewn amgylchiadau eithriadol, rhwng pump a naw diwrnod cyn dyddiad digwyddiad.
Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli TEN?
Pwy all gyflwyno TEN?
Gall unrhyw berson dros 18 oed, fel arfer drefnydd y digwyddiad (a elwir yn ddefnyddiwr y mangre) gyflwyno hyd at 5 TEN ym mhob blwyddyn galendr, a/neu hyd at 2 TEN hwyr. Gall deiliaid trwydded bersonol gyflwyno hyd at 50 TEN a/neu hyd at 5 TEN hwyr ym mhob blwyddyn galendr.
Beth yw'r drefn ar gyfer delio gyda TEN a faint yw'r gost?
Mae'n rhaid i drefnydd y digwyddiad anfon TEN i'r Cyngor ynghyd â ffi o £21, ac anfon copi at Brif Swyddog yr Heddlu a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ar gyfer yr ardal/oedd lle mae'r mangre (gall gofodau agored mawr groesi ffiniau mwy nag un awdurdod lleol neu Awdurdod Heddlu).
Gall Prif Swyddog yr Heddlu a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ymyrryd i atal digwyddiad sydd â TEN os credant y bydd yn tanseilio unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu. Gall y digwyddiad fynd ymlaen fel y'i cynlluniwyd os na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau.
Os yw Prif Swyddog yr Heddlu a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn fodlon y byddai'r digwyddiad pe'i cynhelid yn tanseilio unrhyw un o'r amcanilon trwyddedu, mae'n rhaid iddynt roi hysbysiad gwrthwynebiad i'r Cyngor a defnyddiwr y mangre o fewn tri diwrnod gwaith o dderbyn y TEN. Mae'n rhaid i'r Cyngor wedyn gynnal gwrandawiad o leiaf 24 awr cyn dechrau'r digwyddiad i ystyried yr hysbysiad gwrthwynebu os nad yw'r Heddlu, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, defnyddiwr y fangre a'r Cyngor yn penderfynu nad oes angen gwrandawiad ac yr addaswyd y TEN. Fel arall, mae'n rhaid i'r Cyngor roi gwrth hysbysiad i ddefnyddiwr y mangre os ystyrir bod angen i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu o leiaf 24 awr cyn dechrau'r digwyddiad. Hysbysir pob parti mewn ysgrifen, yn rhoi'r rheswm am benderfyniad y Cyngor. Fodd bynnag, os derbynnir gwrthwynebiadau am TEN hwyr, ni all y digwyddiad fynd rhagddo.
A allaf gyflwyno TEN ar-lein?
Gwneud cais am Hysbysiad Digwyddiad DrosDro (TEN)
A allaf apelio os gwrthodir fy nghais?
Os yw'r Cyngor yn cyhoeddi gwrth hysbysiad yn dilyn derbyn hysbysiad gwrthwynebu, gall defnyddiwr y mangre apelio i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael eu hysbysu am eu penderfyniad. Fodd bynnag, ni ellir gwneud apêl fwy na phum diwrnod gwaith cyn dyddiad dechrau'r digwyddiad. Os nad yw'r Cyngor yn rhoi gwrth hysbysiad yn dilyn hysbysiad gwrthwynebiad, gall yr Heddlu a Iechyd yr Amgylchedd wrthwynebu i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael eu hysbysu am y penderfyniad ond dim mwy na phum diwrnod cyn dyddiad dechrau'r digwyddiad.
Cwynion cwsmeriaid
Os oes gennych gŵyn am ddigwyddiad lle rhoddwyd TEN, neu y dylai fod wedi ei roddi, cysylltwch â Thîm Trwyddedu'r Cyngor.
Manylion cyswllt
Ffôn: 01495 369700
E-bost: licensing@blaenau-gwent.gov.uk