Deddf Trwyddedu 2003

Deddf Trwyddedu 2003

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn system sengl ar gyfer mangre drwyddedig a ddefnyddir ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol, darparu adloniant a reoleiddir neu luniaeth hwyr y nos.

Y mathau o weithgareddau y mae angen trwydded ar eu cyfer yw:

  • manwerthu alcohol yn cynnwys drwy'r rhyngrwyd ac archebu drwy'r post
  • cyflenwi alcohol i aelodau clwb cofrestredig
  • cyflenwi bwyd twym a/neu ddiod rhwng 11pm a 5am
  • darparu adloniant a reoleiddir, megis:-
  • dramâu
  • ffilmiau
  • digwyddiadau chwaraeon dan do
  • bocsio neu reslo
  • cerddoriaeth fyw
  • cerddoriaeth wedi'i recordio
  • dawsnio
  • unrhyw beth tebyg i'r uchod

Dim ond yn unol ag un o'r dilynol y gellir darparu'r gweithgareddau a restrir uchod:-

  • trwydded mangre
  • tystysgrif mangre clwb
  • hysbysiad digwyddiad dros dro (TEN)

Mae unrhyw un dros 18 oed sy'n dymuno gwerthu alcohol mewn safle lle mae trwydded mangre mewn grym angen trwydded bersonol.

Datganiad Polisi Trwyddedu

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi Datganiad o Bolisi Trwyddedu, y mae'n rhaid iddo gael ei adolygu'n rheolaidd, sy'n nodi'r polisïau y bydd y Cyngor yn eu gweithredu fel arfer i hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu wrth wneud penderfyniad ar gais a wnaed yn unol â'r Ddeddf. Yr amcanion trwyddedu yw:-

  • atal troseddu ac anrhefn
  • atal niwsans cyhoeddus
  • diogelu plant rhag anaf
  • diogelwch y cyhoedd

Gorfodaeth

Mae swyddogion gorfodaeth trwyddedu yn cynnal arolygiadau arferol o fangreoedd trwyddedig, yn seiliedig ar feini prawf asesu, i sicrhau y cydymffurfir ag amodau ac y cedwir arferion gwaith diogel. Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw bryderon am fangre trwyddedig.

Prynu Alcohol gan Ddirprwy

Mae Swyddogion Trwyddedu a Safonau Masnach Blaenau Gwent yn parhau i batrolio'r Fwrdeisdref Sirol ar y cyd gyda Heddlu Gwent mewn ymgais i ostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau trwyddedu.

Mae'n drosedd prynu alcohol ar ran unrhyw un dan 18 oed.

Dogfennau Cysylltiedig