Trwydded Casglu Drws i Ddrws

Beth yw trwydded Casglu Drws i Ddrws?

Mae sefydliad, elusen neu unigolyn sy'n dymuno cynnal casgliad elusennol ar gyfer arian neu eiddo drwy wneud ymweliadau i bobl yn eu cartref neu eu man gwaith angen trwydded casglu drws i ddrws. Fodd bynnag, nid oes angen trwydded ar gyfer digwyddiadau a noddir neu lle gadewir blwch casglu mewn safle busnes e.e. siop, tafarn, i'w casglu yn ddiweddarach.

Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli trwyddedau casglu drws i ddrws?

Deddf Casgliadau Drws i Ddrws 1939 sy'n rheoli casgliadau drws i ddrws.

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw un dros 16 oed wneud cais fodd bynnag mae'n rhaid i'r ymgeisydd brofi eu bod yn berson addas a phriodol.

Beth yw'r broses gais?

Mae'n rhaid anfon y ffurflen gais berthnasol i'r Cyngor ynghyd ag awdurdodiad ysgrifenedig gan yr elusen berthnasol. Yn ychwanegol, gall fod angen i'r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth bellach i gefnogi'r cais h.y. copïau o gyfrifon casgliadau eraill.

Os cymeradwyir y cais, mae'n rhaid gwneud casgliadau arian mewn cynwysyddion wedi'u selio ac o fewn un mis o ddyddiad y casgliad, mae'n rhaid i hyrwyddwr y casgliad gyflwyno ffurflen i'r Cyngor yn nodi'r swm o arian neu werth yr arian a gasglwyd.

A allaf wneud cais ar-lein?

Gwneud cais am Drwydded Casglu Drws i Ddrws

Anfon ffurflen casglu drws i ddrws

Faint yw'r gost?

Nid oes unrhyw ffi'n daladwy.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?

Bydd y Cyngor yn trin eich cais cyn gynted ag sydd modd fodd bynnag dylech gysylltu â'r Cyngor os nad ydych wedi clywed o fewn 14 diwrnod o anfon eich cais. Nid oes caniatâd dealledig yn weithredol h.y. ni ddylech dybio y cytunwyd i'ch os nad ydych wedi clywed gan y Cyngor o fewn 14 diwrnod.

A allaf apelio os caiff fy nghais ei wrthod?

Gallwch apelio i Weinidog Swyddfa'r Cabinet o fewn 14 diwrnod os gwrthodir eich cais.

Cwynion cwsmeriaid

Os oes gennych gŵyn am gasgliad elusennol, cysylltwch â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01495 355485.