Caniatâd Masnachu Stryd

Mae'r Cyngor yn rheoli masnachu stryd yn ardal Blaenau Gwent drwy gyhoeddi caniatâd i fasnachwyr sy'n gweithredu yn yr ardal yn unol ag Atodlen 4 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

Diffinnir masnachu stryd fel gwerthu neu ddangos neu gynnig ar werth unrhyw eitem (yn cynnwys unrhyw beth byw) mewn stryd. Caiff pob ffordd, troetffordd, tir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo heb daliad (fel y'i diffinnir gan adran 329 Deddf Priffyrdd 1980) ac ardal wasanaeth yn yr ardal eu dynodi yn 'strydoedd' ar gyfer dibenion y ddeddf.

Mae mabwysiadu'r ddeddfwriaeth hon yn galluogi'r Cyngor i reoli masnachu stryd drwy gymeradwyo'r safle, y cerbyd/uned a ddefnyddir, y nwyddau a werthir a'r oriau masnachu. Gellir hefyd osod amodau ar ganiatâd i ddiogelu'r cyhoedd a chyfyngu niwsans sŵn.

Dim ond pan dderbynnir ffurflen gais wedi'i llenwi, ffi a dogfennau perthnasol y caiff caniatâd ei ystyried. Byddir wedyn yn ymgynghori gydag adrannau a sefydliadau eraill ac, os yn briodol, rhoddir caniatâd am uchafswm cyfnod o un flwyddyn. Gellid codi dirwo o hyd at £1,000 os ceir person yn euog o fasnachu stryd heb ganiatâd,

I wneud cais am ganiatâd masnachu stryd.