Trethi busnes

Cyngor i fusnesau

Mae Ardrethi Busnes yn fath o drethiant lleol sy’n daladwy gan feddianwyr neu berchnogion eiddo masnachol tebyg i siopau, swyddfeydd, tafarndai, warysau a ffatrïoedd.

Cânt eu casglu gan y Cyngor ar ran Llywodraeth Cymru. Caiff yr arian a gesglir eu talu i ‘gronfa’ ganolog ac yna eu hailddosbarthu ar draws Cymru i helpu talu am wasanaethau a ddarperir gan yr holl awdurdodau lleol.

Mae buddiannau masnachol eraill y mae Ardrethi Busnes yn daladwy amdanynt tebyg i fastiau telathrebu, hawliau hysbysebu, peiriannau arian a meysydd parcio ac yn y blaen.

Beth yw’r Lluosydd Ardrethi Annomestig Cenedlaethol?

Y lluosydd yw’r gyfradd yn y bunt ar gyfer lluosogi gwerth trethadwy i roi’r bil ardrethi blynyddol ar gyfer eiddo. Caiff ei osod yn flynyddol gan Senedd Cymru ac ar wahân i flwyddyn ailbrisio ni ellir ei godi gan fwy na swm y cynnydd yn y Fynegai Prisiau Manwerthu. Y lluosydd ar gyfer 2022/23 oedd 0.535 ac mae’n parhau’r un faint ar gyfer 2023/24.

Sut y caiff fy ardrethi busnes eu cyfrif?

Caiff ardrethi busnes eu cyfrif drwy gymryd Gwerth Ardrethol (RV) eich eiddo a’i luosi gan y ‘lluosydd’ ardrethi annomestig cyfredol (neu ‘buntdal’).

Er enghraifft:
Gwerth ardrethol £20,000 x Lluosydd 0.535 = Bil ardrethi blynyddol £10,700
Atebolrwydd gros yw hyn, a gallech fod â hawl i Ryddhad Ardrethi.