Llefydd Cyhoeddus Di - fwg

Mae’n anghyfreithlon ysmygu yn yr holl lefydd cyhoeddus yng Nghymru gydag eithriadau prin. Mae’r gyfraith yn gymwys ar gyfer tafarndai, clybiau, bwytai, bariau, canolfannau siopa, gweithleoedd a thrafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys cysgodfeydd bws a gorsafoedd bws.

Mae’n rhaid i gyflogwyr, rheolwyr a’r rheiny â rheolaeth dros safleoedd arddangos arwyddion dim ysmygu ac atal unrhyw un rhag ysmygu ar eu safleoedd. Os methant â gwneud hyn, gallent wynebu dirwy. Gall unigolion hefyd dderbyn dirwy neu rybudd penyd sefydlog o £50 os ysmygant mewn safleoedd di-fwg.

Amcangyfrifir bod anadlu mwg ail-law yn cynyddu’r risg o ganser yr ysgyfaint mewn oedolion nad ydynt yn ysmygu o 24% a chlefyd y galon  mewn oedolion nad ydynt yn ysmygu o 25%.Mae ysmygu goddefol hefyd yn achosi clefydau anadlol ac asthma mewn oedolion nad ydynt yn ysmygu a phlant.

Rhoi gwybod am rai nad ydynt yn cydymffurfio

I roi gwybod am anghydffurfio â’r gyfraith neu am gyngor a chyfarwyddyd ar gydymffurfio â’r gwaharddiad, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda

Bydd y Cyngor yn delio ag unrhyw gwynion ac mae ganddo’r pwerau i gael mynediad i safle i sefydlu a gydymffurfir â’r ddeddfwriaeth. Gallwn roi rhybuddion penydau sefydlog i unrhyw un rydym ni’n credu sydd, neu sydd wedi cyflawni trosedd dan y gyfraith.  

Angen help i roi’r gorau i ysmygu?

Os mai ‘Oes’ yw’r ateb, cysylltwch â

  • Llinell Gymorth Ysmygwyr Cymru ar 0800 169 0 169
  • Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu Cymru Gyfan ar 0800 086 2219 

Am wybodaeth bellach:

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Commercial Team

Rhif Ffôn: 01495 357813

Cyfeiriad: Public Protection – Environmental Health, Commercial Team, Municipal Offices, Civic Centre, Ebbw Vale, NP23 6XB

Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk