Eich Busnes – Paratoi

Mae’r mwyafrif o fusnesau’n rhedeg yn ddidrafferth am flynyddoedd – ond beth sy’n digwydd pan mae yna drafferth? Beth sy’n digwydd i’r busnes pan mae yna dân? Sut mae archebion yn cael eu cwblhau, beth sy’n digwydd i’r cwsmeriaid pan mae’r busnes ar gau?    

Mae unrhyw ddigwyddiad, bach neu fawr, os ydyw’n naturiol, yn ddamweiniol neu’n fwriadol, yn gallu achosi trafferth i’ch busnes. Ond os ydych chi’n cynllunio nawr, yn hytrach nag aros iddo ddigwydd, byddwch yn gallu mynd yn ôl i weithio mor gyflym â phosib.

Beth yw Rheoli Parhad Busnes?

Proses o gynllunio yw Rheoli Parhad Busnes (BCM) sy’n helpu rheolwyr gynllunio ymlaen llaw yr ymateb i ddigwyddiad sy’n torri ar draws gwaith y busnes yn hytrach na gorfod ymateb heb gynllun.

Mae’r Sefydliad Parhad Busnesau’n diffinio Rheoli Parhad Busnes fel:

'proses reoli gynhwysfawr sy’n adnabod effeithiau busnes posib sy’n bygwth sefydliad a darparu fframwaith ar gyfer adeiladu gwydnwch gyda’r gallu am ymateb effeithiol sy’n diogelu diddordebau ei rhanddeiliaid allweddol, enw da’r sefydliad, brand a gweithgareddau creu gwerth sefydliad.'

Mae’n ymwneud ag adnabod y rhanni hynny o’ch sefydliad na allwch fforddio eu colli – megis gwybodaeth, stoc, adeiladau, staff – a chynllunio sut i gynnal y rhain os oes digwyddiad.

Mae BCM yn symlach nag y byddech yn meddwl. I roi BCM ar waith, bydd angen i chi ystyried y cwestiynau canlynol:

  • Beth yw nwyddau a gwasanaethau allweddol eich sefydliad?
  • Beth yw’r gweithgareddau ac adnoddau hanfodol sydd eu hangen i’w cyflwyno?
  • Beth yw’r peryglon ar gyfer y  gweithgareddau hanfodol hyn?
  • Sut byddwch yn cynnal y gweithgareddau hanfodol hyn os bydd yna ddigwyddiad (dim mynediad i’r adeilad, colli staff, colli TGCh, colli cyfleustodau ac ati)?

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Deanne Griffiths
Rhif Ffôn: 01495 355568
Cyfeiriad: Canolfan Ddinesig, Glynebwy NP23 6XB
Cyfeiriad e-bost: Deanne.griffiths@blaenau-gwent.gov.uk