Grant Twristiaeth Busnes Blaenau Gwent

Caiff Grant Twristiaeth Busnes Blaenau Gwent ei gyllido gan Gronfa Rhannu Ffyniant Llywodraeth y DU a’i reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Nod y Grant yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol o fewn y sectorau Lletygarwch a Thwristiaeth.

Pwy all wneud cais

  • Busnesau sy’n seiliedig ym Mlaenau Gwent neu fusnesau sy’n symud i’r ardal o fewn y sectorau Lletygarwch a Thwristiaeth.
  • Busnesau bach a chanolig, h.y. rhai yn cyflogi llai na 249 o bobl.
  • Masnachwyr Unigol, Partneriaethau, Cwmnïau Cyfyngedig, Mentrau Cydweithredol, Partneriaethau Rhwymedigaeth Cyfyngedig ac eraill.
  • Anelwyd y grant at fusnesau twristiaeth a lletygarwch tebyg i lety Gwely a Brecwast, Gosodiadau Gwyliau, Tai Llety, Gwestai, atyniadau, safleoedd, tywyswyr a darparwyr gweithgareddau.
  • Busnesau gyda phrosiectau sy’n cyflawni o leiaf un o ddeilliannau allweddol y prosiect.

 Pethau allweddol y gall y prosiect eu cyflenwi

Caiff ceisiadau eu hasesu a rhoddir sgôr iddynt ar gyfer allbynnau allweddol dilynol y cynllun (mae’n rhaid cyflawni o leiaf un o’r blaenoriaethau). Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n arwain at greu swyddi oherwydd yr allbynnau a’r deilliannau sy’n gysylltiedig gydag ymyriad perthnasol y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

  • Nifer y swyddi a gaiff eu creu.
  • Nifer y swyddi a gaiff eu diogelu.
  • Effaith economaidd h.y. cyfleoedd cadwyn gyflenwi lleol
  • Ynni gwyrdd a datgarboneiddio
  • Twf, cynnydd mewn trosiant, paratoi ar gyfer y dyfodol.
  • Defnyddio arloesedd a thechnoleg i wella cynhyrchiant neu wasanaeth.
  • Cyfenwi cyfleusterau ymwelwyr newydd a gwell.
  • Arallgyfeirio a datblygiadau newydd.
  • Dylai pob prosiect gefnogi o leiaf un o’r themâu yng Nghynllun Rheoli Cyrchfan Blaenau Gwent

o             Datblygu busnes

o             Herio a newid canfyddiadau

o             Gweithio partneriaeth

o             Ymchwil a dadansoddi

o             Sgiliau

o             Trafnidiaeth

o             Twristiaeth busnes

o             Diwylliant a threftadaeth yn cynnwys Cartref y GIG ac achau

o             Digwyddiadau

o             Twristiaeth wyrdd, awyr agored yn cynnwys gweithgareddau a llwybrau awyr agored

o             Canol trefi

Cymorth grant

  • 50% o gostau cymwys a rhesymol hyd at uchafswm o £50,000 heb gynnwys TAW.
  • Derbynnir ceisiadau ar gyfer costau refeniw a chostau cyfalaf.
  • Isafswm grant £1,000 (gwariant prosiect o leiaf £2,000). Mae’n rhaid holl gostau prosiect grant eithrio TAW.

I gael manylion llawn am gymhwysedd a'r broses ymgeisio, cliciwch