Mae'r Cyngor yn derbyn dyraniad blynyddol gan Gronfa Eglwysi Cymru y gellir ei ddyfarnu ar gyfer ystod eang o amcanion elusennol yn cynnwys dibenion addysgol, cymdeithasol, hamdden a diwylliannol.
Gallech fod yn gymwys am y grant hwn os ydych yn fudiad gwirfoddol ym Blaenau Gwent.
I fod yn gymwys mae'n rhaid i sefydliadau fod yn rhan o'r sector gwirfoddol ac yn darparu cyfleusterau/gweithgareddau sy'n effeithio ar y cymunedau o fewn Blaenau Gwent.
I gael mwy o wybodaeth ar gymhwyster a ffurflen gais, cysylltwch â ni:
Dyddiad cau derbyn pob ffurflen gais wedi'i llenwi yw: 31 Awst 2026.
Caiff ceisiadau yn awr eu hystyried yn flynyddol a ni chaiff unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried.