Tŷ Ebwy Fach, Heol y Capel, Six Bells, Abertyleri
Cafodd Mervyn Griffiths ei eni yn y Blaenau ar 17 Ionawr 1909, a symudodd y teulu i Six Bells ger Abertyleri bedair blynedd wedyn. Ef oedd yr hynaf o deulu o 4 a 2 ferch.
Dywedir i Mervyn ddilyn ei dad drwy chwarae rygbi ac ni wnaeth erioed chwarae pêl-droed yn yr ysgol. Fodd bynnag, gyda’r bêl gron y byddai Mervyn yn gwneud ei farc.
Yn yr un modd â miloedd o bobl ifanc yn ystod y dirwasgiad ym Mlaenau Gwent yn ystod y 1920au a’r 30au, dechreuodd Mervyn ar yrfa fel athro, yn gyntaf yn Nyfnaint cyn symud yn ôl i Gymru.
Dechreuodd fel dyfarnwr mewn gemau bechgyn ysgol yn 1934 a roedd ar restr dyfarnwyr y Gynghrair Bêl-droed yn 1939 ychydig cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd. Yn dilyn y rhyfel, erbyn 1948, roedd Mervyn ar y ‘rhestr ddethol’ o ddyfarnwyr. Yn 1949 oedd yng ngofal ei gêm ryngwladol gyntaf yn Wembley lle cafodd Lloegr eu trechu 3-1 gan yr Alban. Y flwyddyn ddilynol aeth i Brasil ar gyfer ei Gwpan y Byd gyntaf.
Yn 1953 daeth Mervyn Griffiths y Cymro cyntaf i fod yn ddyfarnwr mewn ffeinal Cwpan yr FA – y ‘Ffeinal Stanley Matthews’ enwog – lle daeth Blackpool o fod 1-3 i lawr yn erbyn Bolton gyda dim ond 10 munud i fynd i ennill y gêm 4-3.
Y flwyddyn wedyn, aeth Mervyn i’r Swistir i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd 1954, Roedd yn ddyfarnwr yn un o’r rowndiau cyn-derfynol lle trechodd Hwngari, y ffefrynnau ar gyfer y teitl, ddeiliaid Cwpan y Byd, Uruguay, 4-2. Yn rownd derfynol Cwpan y Byd yn Berne rhwng Gorllewin yr Almaen a Hwngari, roedd Mervyn yn llumanwr. Yn ôl y disgwyl, roedd Hwngari ar y blaen o 2-0 yn y gêm ond yn groes i’r argoelion, ymladdodd Gorllewin yr Almaen yn ôl i fod ar y blaen o 3-2. Gyda munudau ar ôl, ymddangosai fod Puskas wedi sicrhau gêm gyfartal i Hwngari, cyn i Mervyn ddweud fod y gôl yn annilys. Gorllewin yr Almaen enillodd – “Daeth Puskas ataf ac edrych yn grac”, meddai Mervyn yn ddiweddarach.
Dywedwyd i “Wyrth Berne”, fel y gwelai yr Almaenwyr hi, hybu ysbryd gwlad oedd yn dioddef ar ôl y rhyfel, gan gyfrannu at adfer Almaen fel economi fwyaf a phwysicaf Ewrop yn dilyn y rhyfel. Diolch i Mervyn Griffiths, wrth gwrs.
Roedd Mervyn yn un o brif ddyfarnwyr ei gyfnod, gyda galw mawr amdano ar gyfer gemau cynghrair a rhyngwladol gan fod yng ngofal 22 gêm ryngwladol a dyfarnu mewn 3 rownd derfynol Cwpan y Byd.
Roedd Mervyn yn adnabyddus am ei atgasedd o deithio. Yn wir, ar gyfer ei Gwpan y Byd gyntaf ym Mrasil yn 1950, gwrthododd hedfan gan fynd yn lle ar hynny ar long a gymerodd 16 diwrnod i deithio o Tilbury i Rio de Janeiro. Y rheswm dros bryder Mervyn oedd bod 3 o’i berthnasau ymysg y 80 o ddilynwyr rygbi a gafodd eu lladd yn namwain awyr Llandow wrth iddynt ddychwelyd o Iwerddon ar ôl gweld tîm Cymru yn ennill y Goron Driphlyg ym mis Mawrth 1950 – yr adeg honno y drychineb sifil fwyaf yn hanes hedfan.
Gwaetha’r modd, fe wnaeth trasiedi daro teulu Mervyn wedyn, ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei frawd, Vernon Alexander Griffiths, a’i nai, Clive Alan Griffiths, ill dau eu lladd yn nhrychineb Glofa Six Bells ar 28 Mehefin 1960. Caiff eu henwau eu coffau ar gofeb y ‘Guardian’ yn Six Bells.
Ddydd Gwener 24 Ionawr 2014 cafodd y Plac Glas i anrhydeddu Mervyn ei ddadorchuddio gan Clive Thomas, dyfarnwr arall o Gymru. Fel Mervyn, roedd Clive yn ddyfarnwr safon byd, a ymddangosodd yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1974 a 1978 a nifer fawr o gemau rhyngwladol ac Ewropeaidd pwysig. Dywedodd Clive, “Mae’n anrhydedd fawr cael fy ngwahodd i ddadorchuddio’r plac hwn. Roedd gennyf lawer iawn o barch at Mervyn oherwydd ei fod yn ddyfarnwr llym iawn ac roedd gwybod ei fod ef, Cymru arall, wedi cyrraedd y brig, yn tanio fy uchelgais.
“I fi bydd Rownd Derfynol Cwpan FA 1953 bob amser yn ffeinal Mervyn Griffiths ac nid ffeinal Stanley Matthews gan mai dyma’r tro cyntaf i Gymro fod yn ddyfarnwr yn ffeinal Cwpan yr FA. 17 oed oeddwn i ar y pryd a newydd ddechrau dyfarnu. Fi oedd y dyfarnwr ifancaf yn y gynghrair. Y penwythnos hwnnw roeddwn wedi bod yn ddyfarnwr mewn gêm ym Mhontypridd. Yn ystod y gêm aeth y bêl yn sownd mewn cangen coeden – nid oedd y goeden ar y maes chwarae ond roedd y gangen yn ymestyn drosto. Cafodd chwaraewr ei annog i fynd i gael y bêl yn ôl ond dywedodd ei gyd-chwaraewyr wrtho am beidio mynd neu byddai yn ‘hand ball’. I dorri stori hir yn fyr, fe gawsom y bêl yn ôl ac ddechrau’r gêm gyda ‘drop ball’. Roedd stori yr wythnos ddilynol yn y ‘Papur Pinc’ (Footall Echo) a gofynnodd gohebydd i Mervyn am ei farn ar y penderfyniad. Dywedodd Mervyn, nid yn unig mai dyna’r penderfyniad cywir ond bod synnwyr cyffredin wedi bod yn drech, fe aiff y dyfarnwr ifanc yma ymhell!’
Hefyd yn bresennol oedd Gerrard Lewis, 88 oed o Bort Talbot, cyn lumanwr oedd wedi cydweithio gyda Mervyn Griffiths.
Cafodd gosod y plac ei ysgogi gan y Cyng Hedley McCarthy, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, gan gydnabod pwysigrwydd dathlu arwyr lleol. Dywedodd ‘Mae unrhyw un y sonnir amdano wrth ochr Stanley Matthews, Stan Mortensen a Ferenc Puskas yn enw mawr. Mae’n hen bryd cydnabod hyn ac mae’n addas fod y plac yn cael ei ddadorchuddio gan y dyfarnwr arall safon byd o Gymru, Clive Thomas.