Celfyddydau BG yw’r Gwasanaeth Datblygu’r Celfyddydau newydd sy’n anelu at gefnogi, hyrwyddo a dathlu’r celfyddydau ym Mlaenau Gwent.
Rydym yn gobeithio gweithio gyda thrigolion, artistiaid a phartneriaid i greu sector celfyddydau bywiog, llawn dychymyg ac uchelgeisiol yn y fwrdeistref.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy wneud y canlynol:
- Cynyddu mynediad i’r celfyddydau – gan wneud yn siŵr bod y celfyddydau ar gael i bawb
- Hyrwyddo cyfleoedd celfyddydol sydd eisoes yn bodoli yn y fwrdeistref a chynnig cymorth i’r grwpiau sy’n eu cyflwyno
- Ymestyn yr ystod o brofiadau celfyddydol sydd ar gael a chreu cyfleoedd i roi cynnig ar bethau newydd
- Datblygu rhwydwaith creadigol ar gyfer Blaenau Gwent sy’n cefnogi artistiaid ar bob cam o’u gyrfa
- Cynnig cyfleoedd i feithrin sgiliau celfyddydol a chael mynediad at hyfforddiant – gan alluogi pobl i gyrraedd eu potensial creadigol
- Hyrwyddo gallu’r celfyddydau i ddod â phobl ynghyd i adeiladu cymunedau diogel, croesawgar a llewyrchus
- Amlygu gwerth y celfyddydau trwy ddangos yr effaith y maent yn ei chael mewn meysydd fel datblygu economaidd, iechyd, lles ac addysg
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â bgarts@blaenau-gwent.gov.uk