Ymgyrch Presenoldeb Ysgolion DdYCA

Rydym yn cefnogi ymgyrch newydd gan Wasanaeth Addysg Cyngor Blaenau Gwent i wella presenoldeb ysgolion.

Mae'r ymgyrch #DdimYmaColliAllan yn dathlu’r manteision niferus o fynd i'r ysgol bob dydd, fel dysgu, gweithgareddau hwyl, graddau gwych, rhagolygon gyrfa rhagorol a threulio amser gyda ffrindiau.

Byddwn yn rhannu manylion am sut rydym yn annog presenoldeb da ar ein gwefan ac ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Mae gwella presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor.

Byddai gan ddisgyblion sy'n cymryd hanner diwrnod i ffwrdd yr wythnos ar gyfartaledd gyfradd presenoldeb o 90%. Byddai gan y rhai sy'n cymryd un diwrnod i ffwrdd yr wythnos ar gyfartaledd gyfradd presenoldeb o 80%.

Gallai caniatáu i'ch plant gymryd amser i ffwrdd am resymau heblaw salwch gael ei ddosbarthu fel absenoldeb anawdurdodedig a gallai arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig neu erlyniad.

I roi gwybod bod eich plentyn yn sâl, neu i drefnu absenoldeb awdurdodedig, cysylltwch ag ysgol eich plentyn cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi'n cael trafferth cael eich plentyn i fynychu'r ysgol neu os ydych chi'n poeni bod rheswm pam nad yw'ch plentyn eisiau mynd i'r ysgol, siaradwch ag athro dosbarth, Pennaeth Blwyddyn neu Bennaeth eich plentyn am gymorth a chefnogaeth. Mae cyngor a chefnogaeth hefyd ar gael gan ein Gwasanaeth Lles Addysg. Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth ar:

Mwy am Bresenoldeb yn yr Ysgol yma.