Beth yw Llysgennad Ifanc?
Dyma brosiect Gwasanaeth Ieuenctid newydd a fydd yn dechrau ym mis Rhagfyr 2015. Rydym am recriwtio nifer o Lysgenhadon Ifanc i gynrychioli’r Gwasanaeth Ieuenctid a phrosiectau o’i fewn.
Fel Llysgennad Ifanc i’r Gwasanaeth Ieuenctid, byddwch yn eich lle am 12 mis a bydd disgwyl i chi fynychu cyfarfodydd, helpu i gyfeirio gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid, a bod yn llais i bobl ifanc.
Gallwch ddewis a gwneud cais i ddod yn Llysgennad Ifanc ar gyfer un o’r meysydd canlynol:
- NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) – Bydd y Llysgennad Ifanc ar gyfer y maes hwn yn cynrychioli pobl ifanc 14+ sy’n rhan o brosiectau fel Prevent, Oasis ac Esgyn.
- Mynediad Agored – Bydd y Llysgennad Ifanc ar gyfer y maes hwn yn cynrychioli pobl ifanc 11-25 oed sy’n gallu mynychu gweithgaredd a gynhelir gan y Gwasanaeth Ieuenctid yn annibynnol, megis clybiau ieuenctid, Open 4 Youth, a darpariaeth ddatgysylltiedig.
- Pynciau Poeth – Bydd y Llysgennad Ifanc ar gyfer y maes hwn yn cynrychioli pobl ifanc sydd angen cymorth neu wybodaeth gan y Gwasanaeth Ieuenctid a phrosiectau fel iechyd rhywiol, cwnsela a grwpiau cymorth.
- Hyfforddiant – Bydd y Llysgennad Ifanc ar gyfer y maes hwn yn cynrychioli unrhyw hyfforddiant y mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei ddarparu i bobl ifanc megis Gwirfoddolwyr Cynrychiolwyr Ifanc, hyfforddiant gwaith ieuenctid a rhaglen Dug Caeredin.
- Gwybodaeth Ieuenctid – Bydd y Llysgennad Ifanc ar gyfer y maes hwn yn cynrychioli’r wybodaeth y mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei darparu a phrosiectau fel Y BYG, Facebook a’r wefan.
- Gwasanaeth Ieuenctid – Bydd y Llysgennad Ifanc ar gyfer y maes hwn yn cynrychioli’r Gwasanaeth Ieuenctid cyfan a’r bobl ifanc y mae’n gweithio gyda nhw.
Fel Llysgennad Ifanc, beth fyddaf yn ei wneud?
Disgwylir i Lysgenhadon Ifanc gynrychioli eu maes dewisol a rhoi arweiniad i’r staff ar faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc, helpu gyda syniadau ar gyfer y dyfodol, a bod yn llais i bobl ifanc eraill. Mae disgwyl hefyd i Lysgenhadon Ifanc weithredu fel modelau rôl, helpu i recriwtio mwy o bobl ifanc i’w meysydd, a mynychu cyfarfodydd bob hyn a hyn.
Bydd angen i bob Llysgennad Ifanc fod yn ymroddedig, bod eisiau cymryd rhan, a pheidio ag ofni siarad ar ran eraill.
Beth yw manteision gwneud cais a dod yn Llysgennad Ifanc?
Wrth ddod yn Llysgennad Ifanc, byddwch yn ymgymryd â swydd glodfawr. Byddwch wedi cael eich dewis i gynrychioli grŵp o bobl ifanc. Bydd gwneud hyn yn edrych yn dda ar eich CV ac yn rhoi profiad hanfodol i chi a allai eich helpu i gael swydd neu fynd i addysg bellach yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn ennill cymwysterau, yn gwneud ffrindiau newydd ac yn gwneud penderfyniadau pwysig, ynghyd â chael gwobrau posibl eraill fel teithiau a gweithgareddau.
.Gwybodaeth Gyswllt
Greg Morgan
Rhif Ffôn: 01495 355674 / 07970 208727
Cyfeiriad e-bost: greg.morgan@blaenau-gwent.gov.uk