Addysg Ddewisol Yn Y Cartref

Addysg ddewisol yn y cartref: gwybodaeth i rieni

Mae gan rieni hawl i addysgu eu plant yn y cartref cyn belled â’u bod yn cyflawni gofynion Adran 7 Deddf Addysg, 1996, sy’n gosod dyletswydd ar rieni pob plentyn o oedran ysgol gorfodol i achosi iddo neu iddi dderbyn addysg lawn-amser addas ar gyfer eu hoedran, gallu a doniau, ac unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod ganddynt, naill ai drwy fynychu ysgol yn rheolaidd neu fel arall.

Mae’r gyfraith yn dweud fod yn rhaid i blant gael eu haddysgu o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn bump oed hyd at y dydd Gwener olaf yn y flwyddyn ysgol maent yn 16 oed.

Os dymunwch addysgu yn y cartref, rydych yn gyfrifol yn ariannol am addysg eich plentyn. Mae hyn yn cynnwys cost adnoddau addysgol ac unrhyw arholiadau cyhoeddus y dymunwch i blant eu sefyll fel ymgeisydd preifat.

Nod Cyngor Sir Blaenau Gwent yw rhoi arweiniad a chefnogaeth i rieni sydd yn ystyried neu sydd wedi penderfynu ar addysg ddewisol yn y cartref ar gyfer eu plant.

Y broses i roi addysg ddewisol yn eich cartref i’ch plentyn

Nid yw’r penderfyniad i addysgu eich plentyn yn y cartref byth yn un rhwydd ac ni ddylech fod dan bwysau i roi addysg yn y cartref i’ch plentyn. Os yw eich plentyn yn yr ysgol, byddem yn awgrymu cyn i chi dynnu eich plentyn o’r ysgol eich bod yn cwrdd gyda’r ysgol a’r swyddog lles addysg i weld pa gefnogaeth fedrir ei roi ar waith i gadw eu lle yn yr ysgol. Pan fyddwch wedi dod i’r penderfyniad i addysgu eich plentyn yn y cartref bydd angen i chi roi hyn mewn ysgrifen i bennaeth yr ysgol gan ofyn iddo/iddi dynnu eich plentyn o gofrestr yr ysgol a nodi o ba ddyddiad yr hoffech i hyn fod.

A fyddaf yn derbyn unrhyw gymorth os penderfynaf roi addysg yn y cartref?

Er mai penderfyniad i chi yn unig yw addysgu yn y cartref, bydd y Swyddog Addysg yn y Cartref yn cynnig ymweliad dechreuol i’ch cefnogi ac ymweliadau dilynol os oes angen. Bydd hefyd ymweliad blynyddol. Byddwn yn ceisio trefnu rhai gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn (yn dibynnu ar gyllid) i roi cyfleoedd cyfoethogi ar gyfer plant a addysgir yn y cartref i gwrdd â phlant eraill a ddysgir yn y cartref. Fodd bynnag, ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu addysg.

Mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i benderfynu fod eich plentyn yn derbyn addysg lawn-amser addas ac effeithiol.

Gorchymyn Mynychu’r Ysgol

Os na fedrwch roi tystiolaeth fod addysg addas ac effeithiol yn digwydd yna gall fod angen gorchymyn mynychu’r ysgol fydd yn ei gwneud yn ofynnol i’ch plentyn gael ei ddychwelyd i’r ysgol.

Beth yw addysgu hyblyg?

Mae addysgu hyblyg yn drefniant ar gyfer darparu addysg amser llawn i blentyn lle mae’r plentyn yn mynychu’r ysgol rhan o’r amser ac yn cael ei addysgu yn rhywle arall, fel arfer gan y rhiant, am weddill yr amser. Mae’n drefniant unigol a wneir rhwng yr ysgol a’r rhiant. Mae’n cael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru fel addysg amser llawn ddilys. Nid oes model wedi’i bennu ymlaen llaw ar gyfer yr amser a roddir i’r naill leoliad na’r llall ac mae trefniadau unigol yn amrywio’n fawr.

Mae addysgu hyblyg yn wahanol i addysg gartref / addysg ddewisol yn y cartref. Mae rhieni/gofalwyr sy’n gofyn am bresenoldeb hyblyg yn gofyn am batrwm o ddarpariaeth a fydd yn cynnwys presenoldeb yn yr ysgol yn ogystal ag amseroedd pan fydd y plentyn yn derbyn darpariaeth addysgol gartref.

Mae addysgu hyblyg hefyd yn wahanol i drefniadau presenoldeb rhan-amser dros dro y gall yr ysgol/rhiant/gofalwr geisio eu gwneud. Mae trefniadau o’r fath yn cael eu monitro a’u hadolygu gyda’r bwriad o ddychwelyd y plentyn i bresenoldeb amser llawn cyn gynted â phosibl. Mae addysgu hyblyg yn amser llawn, er y gall y ddarpariaeth gael ei rhannu.

Mae addysgu hyblyg yn gyfreithlon yn y DU, ond nid yw’n hawl awtomatig, yn wahanol i addysg gartref amser llawn. Mater i bennaeth eich ysgol yn llwyr yw hyn a bydd angen ei ganiatâd cyn y gallwch fynd ymlaen. O’r herwydd, gall penaethiaid wrthod cytuno i geisiadau o’r fath.

Addysgu Hyblyg Canllawiau i Ysgolion, Rhieni/Gofalwyr a Gweithwyr Proffesiynol

Canllawiau Llywodraeth Cymru ar addysg ddewisol yn y cartref

Canllawiau ar addysg ddewisol yn y cartref | LLYW.CYMRU

Llawlyfr Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysgwyr yn y Cartref:

https://www.gov.wales/home-education-handbook-home-educators-html

Llawlyfr Blaenau Gwent ar addysg yn y cartref

Os ydych yn ystyried addysg yn y cartref neu eisoes yn rhoi addysg yn y cartref ac yr hoffech gysylltu â ni, defnyddiwch y manylion isod os gwelwch yn dda:

Charlotte Copik-Phillips

Swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref

Cyngor Sir Blaenau Gwent

Llys Einion

Abertyleri

Blaenau Gwent

NP13 1DB

 

Ffôn: 07815 029295

E-bost: charlotte.copik@blaenau-gwent.gov.uk

 

Addysg ddewisol yn y cartref: gwybodaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol

 

Mae’n ofyniad cyfreithlon ar rieni i sicrhau fod eu plant yn derbyn addysg addas. Mae rhai rhieni yn dewis cyflawni eu cyfrifoldeb dros ddewis addysgu eu plant yn y cartref. 

 

Os yw rhiant neu ofalwr plentyn yn eich ysgol neu ardal yn penderfynu addysgu yn y cartref, mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen atgyfeirio ac atodi copi o’r llythyr dadgofrestru cyn tynnu’r plentyn o gofrestr yr ysgol.

 

Ein hysbysu am blentyn sy’n cael addysg yn y cartref

 

Fel gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, mae’n rhaid i chi ein hysbysu os gwyddoch am blentyn sydd yn colli addysg, Plant sydd ar goll o addysg yw rhai o oedran ysgol gorfodol (rhwng 5-16 oed) nad ydynt ar gofrestr ysgol, ac nad ydynt yn derbyn addysg addas (er enghraifft, yn y cartref, yn breifat neu mewn darpariaeth arall) a na fu allan o ddarpariaeth addysgol am gyfnod sylweddol o amser, a gytunir fel arfer fel pedair wythnos neu fwy.

Dogfennau:

Polisi Addysg Ddewisol yn y Cartref

Canllawiau i rieni

Canllawiau ar addysg addas

Taflen profiad gwaith