Gofyn am gerdyn PayPoint

Gofyn am gerdyn PayPoint newydd

Gallwch dalu gan ddefnyddio arian parod, neu gyda cherdyn debyd neu gredyd yn unrhyw Swyddfa Bost neu siop PayPoint.

Nid oes angen i chi ofyn am gerdyn PayPoint newydd bob blwyddyn.

Yr hyn sydd ei angen arnoch:

  • Rhaid i chi fod y person a enwir ar gyfrif y dreth gyngor
  • Eich rhif cyfrif y dreth gyngor (gallwch ddod o hyd i hwn ar eich bil diweddaraf)