Mae'r Cyngor wedi cytuno ei gyllideb ar gyfer 2025/2026 ac mae'n bwriadu buddsoddi cyfanswm o £197m i ddarparu gwasanaethau i bobl Blaenau Gwent. Mae’r gyllideb yn diogelu gwasanaethau rheng flaen hanfodol ac yn darparu buddsoddiad sylweddol yn addysg ein pobl ifanc gyda chynnydd o £4.67m (8.45%) i ysgolion a chyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau hamdden sy’n cael eu rhedeg gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.
Bydd y gyllideb y cytunwyd arni yn golygu cyllid uniongyrchol ar gyfer:
Gwasanaethau Cymdeithasol - £55.8m
Addysg ac Ysgolion - £72.4m (£61m ohono'n cael ei ddarparu'n uniongyrchol i ysgolion)
Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgell - £3.65m
Gwasanaethau Amgylcheddol - £29m
Mae Treth y Cyngor yn cyfrannu £42.7m (22%) tuag at gost gyffredinol darparu gwasanaethau. Mae elfen y Cyngor o fil Treth y Cyngor yn cynyddu 4.95%, gan arwain at gynnydd fesul aelwyd mewn eiddo Band D o £1.82 ychwanegol yr wythnos. Mae mwyafrif helaeth yr eiddo ar draws Blaenau Gwent naill ai ym Mand A neu B sy'n golygu y bydd eu cynnydd wythnosol yn £1.22 a £1.42 yn y drefn honno. Mae cyllideb Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor hefyd wedi'i chynyddu i barhau i ddarparu cymorth ariannol gyda chost y dreth gyngor i drigolion cymwys ar incwm isel. Mae'r cynllun yn cefnogi tua 8,200 o gartrefi.
Mae'r rhagolwg ariannol tymor canolig ar gyfer y pedair blynedd nesaf yn heriol gyda bwlch ariannu o £11m. Mae'r Cyngor yn parhau â'i raglen ariannol strategol o'r enw Pontio'r Bwlch, a fydd yn ei alluogi i gynllunio ei wariant yn unol â'i gyllid. O fewn y fframwaith hwn, bydd y Cyngor yn edrych ar ffyrdd pellach o gyflawni costau is a chynyddu incwm, wrth liniaru'r effaith ar wasanaethau, bydd hyn hefyd yn golygu gweithio'n agosach gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Eich Bil Treth Gyngor 2025/2026
Cymharu Amcangyfrif Gwariant Refeniw Net 2024/2025 a 2025/2026
Portffolio |
2024/ 2025 |
2025/ 2026 |
% Cynnydd |
|
£000 |
£000 |
|
Gwasanaethau Corfforaethol |
26,293 |
27,039 |
2.84 |
Gwasanaethau Cymdeithasol |
53,159 |
55,832 |
5.03 |
Byw Llesol a Dysgu |
69,032 |
76,081 |
10.12 |
Economi |
470 |
244 |
-48.09 |
Amgylchedd |
28,183 |
29,246 |
-3.77 |
Cynllunio a Thrwyddedu |
1,269 |
1,289 |
1.59 |
Arall |
7,224 |
7,578 |
3.32 |
Cyfanswm Gwariant Refeniw Net |
185,740 |
197,246 |
|
Sut y Cyllidir y Gyllideb
Ffynhonnell Cyllid |
2025 / 2026 |
|
|
£000 |
% |
Treth Gyngor |
42,712 |
21.7 |
Grant Cymorth Refeniw |
130,414 |
66.1 |
Cronfeydd wrth Gefn |
0.00 |
0 |
Ardreth Annomestig Genedlaethol |
24,120 |
12.2 |
Cyfanswm |
197,246 |
100.0 |
Gwariant Cyfalaf
Yn 2025/2026 mae’r Cyngor yn amcangyfrif y bydd ei gyfanswm Gwariant Cyfalaf fel sy’n dilyn:
|
2024/25 |
2025/26 |
|
£000 |
£000 |
Gwasanaethau Eraill |
38,927 |
34,642 |
Cyfanswm |
38,297 |
34,643 |
Amcangyfrif Cronfeydd Ariannol wrth Gefn
Cronfeydd wrth Gefn Refeniw – amcangyfrifir y bydd cronfeydd wrth gefn cyffredinol neilltuol yn sefyll ar £12.5 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.
Asesiadau Gwariant Safonol
Cafodd Asesiad Gwariant Safonol y Cyngor ei benderfynu gan Senedd Cymru fel £178,361 ar gyfer 2024/25 a £192,490 ar gyfer 2025/2026.
Gofyniad Cyllideb yr Awdurdod
Gofyniad cyllideb yr Awdurdod ar gyfer blwyddyn 2024/2025 yw £185,740 ac ar gyfer 2025/2026 yn £197,038.
Y Dreth Gyngor ar gyfer Pob Ardal 2025/2026
Band/ Cymuned |
A |
B |
C |
D |
E |
F |
G |
H |
I |
Abertyleri a Llanhiledd |
1656.63 |
1932.72 |
2208.84 |
2484.94 |
2037.16 |
3589.35 |
4141.57 |
4969.88 |
5,798.19 |
Brynmawr |
1613.94 |
1882.92 |
2151.92 |
2420.91 |
2958.90 |
3496.87 |
4034.85 |
4841.82 |
5,648.79 |
Nantyglo a Blaenau |
1620.38 |
1890.43 |
2160.50 |
2429.47 |
2970.69 |
3510.80 |
4050.94 |
4861.12 |
5,671.30 |
Tredegar |
1619.65 |
1889.58 |
2159.53 |
2429.47 |
2969.36 |
3509.23 |
4049.12 |
4858.94 |
5,668.76 |
Glynebwy / Cwm / Beaufort |
1594.81 |
1860.60 |
2126.41 |
2392.21 |
2923.82 |
3455.41 |
3987.02 |
4748.42 |
5,581.82 |
Praeseptiau ac Ardollau
Mae’r cyrff dilynol wedi gosod praesept ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
|
2023/24 |
Cyfwerth Band D |
2024/25 |
Cyfwerth Band D |
Heddlu Gwent |
7,317,677 |
349.52 |
7,317,677 |
377.31 |
381,131 |
82.51 |
434,023 |
92.73 |
|
45,000 |
26.27 |
50,000 |
28.70 |
|
105,000 |
38.72 |
105,000 |
38.35 |
|
171,098 |
35.93 |
178,797 |
37.26 |
Mae’r cyrff dilynol wedi gosod ardoll o’r symiau a nodir ar y Cyngor
Sefydliad |
2023/2024 |
2024/2025 |
% Cynnydd |
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
32,130 |
33,737 |
5 |
Gwasanaeth Tân |
4,167,800 |
4,375,410 |
4.98 |
Llys y Crwner |
203,399 |
211,299 |
3.88 |
Cyfanswm |
4,403,329 |
4,620,446 |
4.93 |