Cais am ostyngiad i ymadawyr ysgol neu goleg

Pwy yw person sy'n ymadael â’r ysgol neu'r coleg?

Ystyrir bod person sy’n ymadael â’r ysgol neu'r coleg at ddibenion disgownt y dreth gyngor os ydynt:

  • Yn 18 neu'n 19 oed
  • Wedi gadael cwrs addysg cymwys rhwng 30 Ebrill a 1 Tachwedd.

Beth yw cwrs addysg cymwys?

Gall person wneud cais am ddisgownt y dreth gyngor os ydynt wedi gadael cwrs addysg sydd:

  • Yn para am fwy na 3 mis
  • Yn gofyn am o leiaf 12 awr o bresenoldeb yr wythnos
  • Yn cael ei ddysgu'n bennaf wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Gwybodaeth sydd ei hangen

Cyn gwneud cais am ddisgownt i berson sy’n ymadael â’r ysgol neu'r coleg, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Teitl y cwrs neu'r pwnc
  • Cerdyn Adnabod (ID) myfyriwr - gallwch gael hwn o'ch ysgol neu goleg
  • Enw a chyfeiriad yr ysgol neu'r coleg.