Cais am Esemptiad

Cartrefi nad ydynt yn talu y Dreth Gyngor:

  • Cartrefi gwag sydd:
  • Heb ddodrefn (hyd at 6 mis)
  • Yn eiddo i elusen (hyd at 6 mis)
  • Angen gwaith trwsio mawr neu newidiadau strwythurol (hyd at 12 mis)
  • Yn perthyn i rywun yn y carchar
  • Yn perthyn i rywun sydd wedi symud i gael gofal mewn ysbyty neu gartref gofal
  • Yn perthyn i rywun sydd wedi symud i roi gofal i berson arall
  • Yn perthyn i rywun sydd wedi symud i dderbyn gofal gan berson arall
  • Wedi'i adael heb ei feddiannu gan fyfyrwyr
  • Yn aros am brofiant neu lythyrau gweinyddu (a hyd at 6 mis wedi hynny)
  • Wedi cael eu hadfeddiannu
  • Yn cael eu rheoli gan ymddiriedolwr person sy’n fethdalwr
  • Yn aros i weinidog yr efengyl symud i mewn
  • Cartrefi lle mai dim ond myfyrwyr sy’n byw

Pwysig:

Mae'r eithriad ar gyfer yr eiddo, nid ar gyfer y person. Mae hyn yn golygu bod yr eithriad yn berthnasol i'r cartref ei hun. Nid yw'n dibynnu ar bwy sy'n berchen arno na phwy sy'n byw yno.

Enghraifft:

  • Os yw cartref wedi bod yn wag am fwy na 6 mis cyn i chi ddod yn gyfrifol amdano, nid yw'r cyfnod 6 mis yn dechrau eto.
  • Os yw rhywun arall eisoes wedi hawlio 2 fis o'r eithriad 6 mis, dim ond y 4 mis sy'n weddill y byddwch chi'n eu cael.